Trwy wybod yr Ysgrythyr lân

(Y Gair yn ddymunol)
Trwy wybod yr Ysgrythyr lân,
Ca'dd miloedd yn eu genau gân;
  Hen air y llw yw enw hon,
  A gair a'n deil
      pan guro'r don.

Y lân Ysgrythyr, llythyr llawn,
At ddyn yw hi'n cyhoeddi Iawn;
  A ffordd agored i rai gwael
  I ras a hedd
      trwy Iesu hael.

Ysgrythyr lân, O! gyfran gu,
Tydi wyt fron y nefoedd fry;
  Os sugnwn dy ysbrydol laeth,
  Fe dry'n achubol fywiol faeth.
Peter Jones (Pedr Fardd) 1775-1845

Tôn [MH 8888]: Melcombe (Samuel Webbe 1740-1816)

(The Word as desirable)
Through knowing the holy Scripture,
Thousands got in their mouths a song;
  The old word of the oath is this name,
  And a word which will hold us
      when the wave strikes.

The holy Scripture, a full letter,
To man it is announcing a Ransom;
  And a way opened for poor ones
  To grace and peace
      through generous Jesus.

Holy Scripture, O dear share,
Thou art the breast of heaven above;
  If we suck thy spiritual milk,
  It turns into saving, lively nourishment.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~