Tŵr Cadarn yw enw fy Nuw Ynghanol peryglon y byd; O'i fewn y mae cariad yn byw Yn ras a thrugaredd i gyd: Arfoged gelynion yn awr Nid ofna fy enaid yr un; Sylfeini y Tŵr sydd i lawr Ym mywyd y Duwdod Ei Hun. Caf ddianc i'w felys fwynhad, Er ameu'r addewid yn hir; Drwy niwloedd cynddaredd a brad Mae llwybyr y bywyd yn glir; Yn wyneb byddinoedd di-ri, A'r creulon gawodydd o dân, Mae'r Tŵr yn agored i ni A'i byrth yn orfoledd a chân. Hyderaf yn enw fy Nuw, I'r Tŵr y cyfeiriaf fy nhraed; Ac yno caf lonydd i fyw Heb ofni dialydd y gwaed; O gyrraedd terfysgoedd y byd, Mewn tawel dangnefedd di-stŵr, Caf gwmni angylion o hyd Yn heddwch fy Nuw yn y Tŵr.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 [Mesur: MHD 8888D] |
A strong Tower is the name of my God In the midst of the dangers of the world; Within there is love living In all grace and mercy: Armed enemies now My soul does not fear even one; The foundations of the Tower are below In the life of the Godhead Himself. I will get to escape into its sweet enjoyment, Despite long doubting the promise; Through the fogs of wrath and treachery The path of life is clear; In the face of numberless armies, And the cruel showers of fire, The Tower is open to us And its portals jubilation and song. I will boast in the name of my God, To the Tower I will direct my feet; And there I will get joy to live Without fear of the vengeance of blood; Out of the reach of the tumults of the world, In quiet, undisturbed peace, I will get the company of angels constantly In the peace of my God in the Tower.tr. 2015 Richard B Gillion |
|