Tydi fy Nuw Tydi i gyd

1,2,3a,4;  1,2,3a,8,(9);  1,2,4,5;  1,2,5,3b;  1,3b;  1,(5,6,7),8,9.
(Cwbl yr enaid yn Nghrist)
Tydi, fy Nuw, Tydi i gyd,
Yw'r cwbl feddaf yn y byd;
  Yr wyt Ti'n well, &c.
Na'r India bell
    a'i pherlau drud.

O fewn i'r anial dyrys, maith,
Yn disgwyl hyfryd ben fy nhaith, 
  'Rwy'n gwel'd yn wir, &c.
Yr oriau'n hir heb Dy fwynhau.

Yn nyfnder pob rhyw drallod, mae
Un radd o'th wedd yn llawenhau;
  Diddanwch sy, &c.
'N Dy wyneb cu
    sydd fwy na'r byd

[Yn nyfnder pob rhyw drallod, mae
 Un radd o'th wedd yn llawenhau;
   Mae gweld dy wedd, &c.
 A phrofi'th hedd,
     yn well na'r byd.]

Mwy yw fy mhleser, mwy fy rhodd,
A mwy yw f'enaid wrth ei fodd,
  I wel'd dy wedd, &c.
A phrofi'th hedd,
    na'r byd i gyd.

Ymhell o sŵn daearol fyd
Mae fy nhrysorau oll i gyd;
  Y wlad lle mae, &c.
Rhyw fôr di-drai o berffath hedd.

O hyfryd fan!
    tra bo ynof chwyth,
Sychedaf am fod ynddo byth:
  Fe dry fy ngwae, &c.
Yn llawenâu yn nhŷ fy Nhad.

Mi gofiaf yno am y dydd
'Rhoed fy nghadwynau oll yn rhydd;
  Ac am y gair, &c.
Dedwydd a bair
    ei gofio byth.

Mae'r funyd leiaf fach o'r awr
I garu fy Iachawdwr mawr,
  Yn well ryw ddydd, &c.
Na'r cwbl sydd o dan yr haul. 

Aed heibio'm dyddiau bob yr un
Wrth garu'm Crëwr mawr yn ddyn;
  Fy enaid can, &c.
I'th Brynwr glân, a dôs i'r bedd.
Mae gweld :: Rho wel'd
'r funyd leiaf fach o'r awr :: treulio mynud uwch y llawr

William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
    Doversdale (Samuel Stanley 1767-1822)
    Duke Street (J L Hatton 1809-18)
    Felix (o Mendelssohn 1809-47)
    Green's (<1829)
    Hursley (Katholisches Geistliche Gesangbuch 1774)
    Luther (Gesangbuch Klug 1535)
    Luther's Chant (H C Zeuner 1795-1857)
    Lledrod (alaw Gymreig)
    Magdeburgh (<1875)
    Samson (o G F Handel 1685-1759)
    Teml Sïon (<1835)
    Wareham (William Knapp 1689-1768)
    Winchester (New) (Musicalisch Hand-buch 1690)

gwelir: Aed heibio'm dyddiau bob yr un

(The soul complete in Christ)
Thou, my God, Thou altogether,
Are all I possess in the world;
  Thou art better, &c.
Than the distant India
    and its expensive pearls.

Within the vast, troublesome desert,
Expecting my delightful destination,
  I am seeing truly, &c.
The hours as long without enjoying Thee.

In the depth of every kind of trouble, one
Degree of thy countenance is cheering;
  Comfort is, &c.
In Thy dear face
    which is more than the world.

[In the depth of every kind of trouble, one
 Degree of thy countenance is cheering;
   To see thy face and, &c.
 To experience thy peace are
     better than the world.]

Greater is my pleasure, greater my gift,
And greater is my soul delighted,
  To see thy countenance, &c.
And experience thy peace,
    than all the world.

Far from the sound of the earthly world
Is all my treasure altogether;
  The land where there is, &c.
Some unebbing sea of perfect peace.

O delightful place!
    While there be in me breath,
I shall thirst to be in it forever:
  My woe shall turn, &c.
To rejoicing in my Father's house.

I shall remember there about the day
All my chains were set free;
  And about the word, &c.
Happy shall continue
    the remembering of it forever.

The least small minute of the hour
To love my great Saviour, is
  Better some day, &c.
Than all that is below the sun.

Let every one of my days go past
While loving my great Creator as man;
  My soul, sing,, &c.
To thy holy Redeemer, and go to the grave.
To see ... are :: Grant to see
The least small minute of an hour :: Spending a minute above the ground

tr. 2011,16 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~