Tydi, O Dduw, sy'n berchen hawl I'n didwyll fawl gawstadol: Ond O! mor fuan mae'n llesgâu Ar ein tafodau dynol! A raid in' adael hyn o waith I'r lluoedd perffaith gwiwlan? Y mawl sy'n deilwng iawn i ti, Ni allwn ni mo'i ddatgan. Er cynyg moli enw'r Ion, Ac arfer mawrion eiriau, Rhy weigion ŷm o ysbryd byw, Ac oerion yw'n serchiadau. Ond O! pa bryd y profwn les Nefolaidd wres na oera? Pan lyncir enway gwaelion llawr Yn enw mawr Jehofa!Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844 Tôn [MS 8787]: Dyfrdwy (John Jeffreys 1718-98) |
To Thee, O God, belongs the right To our sincere, constant praise: But O, how soon it grows feeble On our human tongues! And must we work such as this To the perfect, worthy, holy hosts? The praise which is very fitting for thee, We are not able to express. Although offering praise to the Lord's name, And the use of great words, Too empty we are of a living spirit, And cold are our affections. But oh, when shall we experience the benefit Of heavenly warmth that will not cool? When base names are swallowed down In the great name of Jehovah!tr. 2016 Richard B Gillion |
|