Tydi yr hwn breswyli Y tragwyddoldeb mawr, O anfon nef oleuni I'th Eglwys ar y llawr - Goleuni dy ddoethineb I gafarwyddo'i gwaith, Goleuni gwedd dy wyneb Yn gysur ar ei thaith. Moes in' oleuni'th gariad, A phur sancteiddrwydd glân, I nefoleiddio'n teimlad, Ac i wresogi'n cân, Nes byddo i'th Eglwys gyfan, Pan ddelo gofid trist, Gael gorphwys megys Ioan Ar fynwes Iesu Grist. O am gael nes cymdeithas A'r Tad a'r Mab trwy ffydd, Ac ymarweddiad addas I deyrnas nef bob dydd; Gan rodio mewn goleuni Trwy leidiog lwybrau byd, A gwaed yn Oen yn golchi Ein beiau oll i gyd. Goleuni y gwirionedd O gam i gam fel hyn A'n harwain yn y diwedd I sanctaidd Sïon fryn, Lle mae goleuni bywyd Tragwyddol byth mewn hoen Yn taenu môr wynfyd O wyneb Duw a'r Oen.Hymnau yr Eglwys 1892/1921 Tôn [7676D]: Munich (Neuvermehrtes Gesangbuch 1693) |
Thou art he who dost inhabit The great eternity, O send a heaven of light To thy Church on the earth - The light of thy wisdom To instruct her work, The light of the countenance of thy face As a comfort on her journey. Give us the light of thy love, And pure, clean holiness, To make our feeling heavenly, And to warm our song, Until thy whole Church be, Whenever sad grief come, Getting rest like John On the bosom of Jesus Christ. O to get closer fellowship With the Father and the Son through faith, And conduct worthy Of the kingdom of heaven every day; While walking in light Through the miry paths of the world, And the blood of the Lamb washing All our faults altogether. The light of the truth From step to step thus Shall lead us to the end To holy Zion hill, Where is the light of life Eternally forever in joy Spreading a sea of bliss From the face o God and the Lamb.tr. 2015 Richard B Gillion |
|