Tyr'd Ysbryd sanctaidd, ledia'r ffordd Bydd i mi'n niwl a thân; Ni cherdda i'n gywir hanner cam, Oni byddi o fy mlaen. Mi wyraf weithiau ar y dde', Ac ar yr aswy law; Am hynny arwain gam a cham, Fi i'r baradwys draw. Dod yn fy ngenau fawl ar g'oedd, Ac yn fy ysbryd dân; Ac yn mheryglon anial dir, Erfyniau pur a chân. Mae hiraeth arnaf am y wlad Lle mae torfeydd di-ri' Yn canu'r anthem i barhau Am angeu Calfari! Ddiffygia'i ddim er c'yd fy nhaith Tra paro gras y ne'; Ac er lleied yw fy ngrym Mae digon ynddo fe. Mae'r iachawdwriaeth fel y môr, Yn chwyddo byth i'r lann: Mae yma ddigon, digon byth, I'r truan ac i'r gwan. 'Does yma eisiau byth yn bod, Trysorau gras yn llawn; Er maint yw'r yfed a'r glanhau, O fore hyd brydnawn. 'Dai 'mofyn haeddiant byth, na nerth, Na ffafr neb na'i hedd, Ond hwnnw'n unig gwyd fy llwch, Yn fyw i'r lann o'r bedd. c'yd fy nhaith :: c'yd y daith ynddo fe :: ynddo Ef
Tonau [MC 8686]:
gwelir: |
Come Holy Spirit, widen the way Be to me as cloud and fire; I shall not walk half a step aright, Unless thou be before me. I deviate sometimes to the right, And to the left hand; There for lead step by step, Me to the paradise yonder. Put in my mouth praise publicly, And my spirit fire; And in the dangers of a desert land, Pure petitions and a song. I have a longing for the land Where multitudes without number are Singing the anthem to continue About the death of Calvary! I shall not faint despite the length of my journey While the grace of heaven endures; And despite how small is my strength There is sufficient in him. The salvation is like the sea, Surging ever towards the shore: Here is sufficient, sufficient forever, For the pitiful and for the weak. There is never here any want, Of treasures of grace in full; Despite how great is the drinking and the cleansing, From morning until afternoon. I am never going to ask for merit, nor strength, Nor favour from anyone nor their peace, None but he alone shall raise my dust, Alive up from the grave. the length of my journey :: the length of the journey :: tr. 2014 Richard B Gillion |
|