Tyred Arglwydd Iôr i lawr

Tyred, Arglwydd Iôr, i lawr,
Tyred yn dy gariad mawr;
  Tyred, una ni bob un
  Yn dy gariad pur dy hun.

O llefara air yn awr,
Gair a dynn y nef i lawr;
  Ninnau gydag engyl nen
  Rown y goron ar dy ben.

Yma nid oes gennym ni
Neb yn arglwydd ond tydi;
  Ac ni cheisiwn arall chwaith
  Oesoedd tragwyddoldeb maith.

Arglwydd, disgyn oddi fry,
Ac yn awr o fewn dy dŷ
  Tyn ni atat, gwna ni'n un
  Yn dy gariad pur dy hun.
R J Derfel 1824-1905

Tôn [7777]: Llandaf (Idris Lewis 1889-1952)

Come, Sovereign Lord, down,
Come in thy great love;
  Come, unite us every one
  In thy own pure love.

O speak a word now,
A word which brings heaven down;
  We with the angels of the sky
  Put the crown on thy head.

Here we do not have
Any lord but thee;
  And we seek none either
  Throughout eternal ages.

Lord, descend from above,
And now within thy house
  Draw us to thee, make us one
  In thy own pure love.
tr. 2008 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~