Tyred, Arglwydd, tyr'd yn fuan, Dim ni'm boddia dàn y ne', Dim ond ti a ddeil fy ysbryd Gwan, lluddedig, yn ei le; Neb ond ti a gwyd fy enaid Llesg o'r pydew du i'r làn; Os tydi sy'n gwneyd im ochain, Ti'm gwnan llawen yn y màn. Hŵyl fy enaid sy wrth d'ewyllys, Fel y mynot mae yn bôd Oll o mewn, ac oll oddi allan, Ddigwydd imi îs y rhôd: 'Nawr ti'm codi i'r làn i'r nefoedd, Eilwaith ti'm gostyngi i lawr; Mae dy gerydd a dy gariad Im' yr un rhyfeddod fawr. Tyr'd, rho gerydd im', neu gariad, Yr un fynech ti dy hun; Ond trwy'r cwbl cadw f'ysbryd Yn sefydlog wrth dy glun : Dros y bryniau gwna i mi gerdded Tuag adre'n ddi-nacâd, Heb yn unlle i mi edrych Ond ar degwch tŷ fy Nhad.William Williams 1717-91
Tonau [8787D]: |
Come, Lord, come quickly, Nothing shall drown me under heaven, Nothing but thou shall hold my weak, Exhausted spirit, in its place; No-one but thou shall raise my fainting Soul up from the black pit; If it is thou who makest me groan, Thou shalt make me joyful soon. The mood of my soul is subject to thy will, As thou wilt, so it be All from within, and all from without, Which happens to me under the sky: Now wilt lift me up to the heavens, Again thou wilt bring me down; Thy rebuke and my love are To me the same great wonder. Come, give a rebuke to me, or love, The same as thou thyself wilt; But through the whole preserve my spirit Fixed by the thigh: Over the the hills make me walk Towards home inexhaustable, Without anywhere for me to look But on the fairness of my Father's house.tr. 2015 Richard B Gillion |
|