Tyred Arglwydd tyr'd yn fuan (Dyro'n helaeth ...)

(Gweddi am Lwyddiant)
Tyred, Arglwydd, tyr'd yn fuan,
  Dyro'n helaeth ôl dy law;
Awel hyfryd dy Lân Ysbryd
  Chwytho fywyd yma 'thraw:
Gwael drueiniaid ddelo i glywed
  Dy efengyl yn ei grym,
Fel y teimler drwy'r holl wledydd
  Bwys a mîn dy gleddyf llym.

Marchog, lesu, yn llwyddiannus,
  Gwisg dy gleddyf ar dy glun;
Achub ddynolryw truenus,
  Dwg hwy eilwaith ar dy lun:
I dy weision dyro allu
  I gyhoeddi'th gariad mawr,
Fel y delo'r byd i gredu,
  Ac i'th garu ar y llawr.
William Williams 1717-91

Tôn [8787D]: Dusseldorf
    (F Mendelssohn-Bartholdy / J Roberts)

gwelir:
  Capten mawr ein hiechydwriaeth
  Clywch yr udgorn fel mae'n seinio
  Iesu llawnder mawr y nefoedd
  Marchog Iesu yn llwyddiannus
  Mewn anialwch 'rwyf yn trigo
  O llefara addfwyn Iesu

(Prayer for Success)
Come, Lord, come quickly,
  Give plenteously the mark of thy hand;
The delightful breeze of thy Holy Spirit
  Blowing life here and there:
That miserable wretches may come to hear
  Thy gospel in its strength,
As it is felt through all the lands
  The force and edge of thy sharp sword.

Ride, Jesus, successfully,
  Wear thy sword on thy thigh;
Save wretched humanity,
  Bring them once more on thy image:
To thy servants give to be able
  To publish thy great love,
So that the world may come to believe,
  And to love thee here below.
tr. 2008 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~