Tyred Geidwad cyffredinol

(Lledaeniad y efengyl)
Tyred Geidwad cyffredinol!
  Cymer feddiant ar y byd;
Tyrd yn awr mewn cariad dwyfol,
  Llywia'n daear fawr i gyd;
    Doed dy deyrnas,
  Aed yn nefoedd ar y llawr.

Rhoed cenhedloedd byd
    i'th feddiant
  Dwg y bobloedd ar dy lun;
Gwawried dyddiau'th lawn ogoniant,
  Brysied arwydd Mab y dyn;
    Doed dy deyrnas,
  Aed yn nefoedd ar y llawr.
1: John Hughes 1776-1843
2: John Jenkins (Gwili) 1872-1936
            - - - - -

Tyred Geidwad cyffredinol,
  Cymmer feddiant ar y byd,
Tyrd 'nawr mewn cariad dwyfol,
  Llywia'n daear fawr i gyd;
    Doed dy deyrnas,
  Aed yn nefoedd ar y llawr.

Disgyn Arglwydd o'r uchelder
  I fendithio dynolryw;
Y mae'n llawn bryd i ti gym'ryd
  Meddiant o dy deyrnas wiw:
    Aed d'efengyl
  Dros holl gyrrau maith y byd.

Y mae'r ddaear yn och'neidia
  Dan ddirfawr bwys pechodau dyn;
A'r tywyllwch wedi cuddio
  Gwirioneddau Duw ei hun:
    Cyfod Arglwydd
  Ac ymddangos dros y gwir.

Dangos Iesu i ti farw
  Dros dylwythau'r ddaear gron;
I ti ar y croesbren chwerw,
  Brynu holl drigolion hon:
    Dyro gymmorth
  I gyhoeddi hyn yn llawn.

Llwydda'r gennadwri
      roddaist
  I dy weision Iesu cu;
Fel y delo'r byd i gredu
  Ac i garu'n Harglwydd ni:
    Pawb yn canmol
  'R Oen fu farw ar y bryn.
Diferion y Cyssegr 1804

Tonau [878747]:
Alma (Samuel Webbe 1740-1816)
Dôl-y-Coed (William Harris 1820-1910)
Peniel (Isaac Tucker 1761-1825)
Regent Square (Henry Smart 1813-79)
Sicily (alaw Eidalaidd)

gwelir: Arglwydd agor im' dy fynwes

(The spread of the gospel)
Come, general Saviour!
  Take possession of the world;
Come now in divine love,
  Govern all our great earth;
    Thy kingdom come,
  As the heavens may the earth become.

May he give the nations of the world
    for thy possession
  Lead the peoples in thy image;
May the days of thy full glory dawn,
  May the sign of the Son of man hurry;
    Thy kingdom come,
  As the heavens may the earth become.
 
 
                - - - - -

Come, general Saviour,
  Take possession over the world,
Come now in divine love,
  Govern all the great earth;
    May thy kingdom come,
  May it become heaven on the earth.

Descend, Lord, from the height
  To bless humankind
It is high time for thee the take
  Possession of thy worthy kingdom:
    May thy gospel go
  Across all the world's vast corners.

The earth is groaning
  Under the enormous weight of man's sin;
And the darkness having hidden
  The truths of God himself:
    Arise, Lord,
  And appear for the truth.
  
Jesus, show that thou hast died
  For the tribes of the round earth;
That thou on the bitter wooden cross,
  Bought all the inhabitants of this:
    Give help
  To publish this fully.

May the mission of the envoys
      thou didst give
  To thy servants, dear Jesus;
That the world might come to believe
  And to love our Lord:
    Everyone extolling
  The Lamb who died on the hill.
tr. 2016,19 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~