Un trugarog a thostriol Ydyw'r Duw anfeidrol fawr, Bwgwth cosbi - wed'yn oedi, Heb ein tori eleni i lawr; Diolch iddo, &c., Byth am beidio'n t'rawo'n drwm. Bwgwth barn i gadarn gydio, Yma i'n dryllio am ein drwg, Weithiau t'ranu, dan felltenu, Fel i'n hysu yn ei ŵg; Bwgwth t'rawo, &c., Yma i'n deffro y mae Duw. Trawo peth o'n hodiaeth ydau, Mewn rhai manau yn ein mysg, Eto rhoi i'n ymborth ddigon, - O! na chym'rai dynion ddysg; Diolch iddo, &c., Nid am daro y mae'n Duw. Bwgwth stormydd, garw gerydd, Ar ein bronydd, er ein braw, Weithiau'n bwgwth drwy dymhestloedd Ddifa'n glynoedd efo gwlaw; Arbed wed'yn, &c., 'R ol ein dychryn a wnai Duw.Edward Jones 1761-1836 Caniadau Maes y Plwm 1857 [Mesur: 878747] |
One merciful and pitying Is the infinite, great God, Threatening the punish - then delaying, Not breaking us this year down; Thanks to him, &c., Forever for not striking us heavily. Threatening judgment to take hold firmly, Here to shatter us for our evil, Sometimes thundering, under lightening, Thus to consume us in his frown; Threatening to strike, &c. Here to awaken us is God. Striking some of our exquisite grain, In some places in our midst, Yet giving to us sufficient sustenance, - Oh that men would accept teaching; Thanks to him, &c., Not wanting to strike is our God. Threatening storms, rough chastisement, On our hillsides, for our terror, Sometimes threatening through tempests Eroding our valleys with rain; Save then, &c., After terrifying us, would God.tr. 2016 Richard B Gillion |
|