Un tyner oen yn y gorlan fry, O wres yr haul a'r gauaf du, Pell uwchlaw'r byd a'i freuddwyd gau, Yn disgwyl dy weled di yno'n glau. Un fach oedd anwyl ei gwedd a'i gair Sydd heddyw yn rhodio yr heol aur; Neu'n disgwyl, dan gysgod y buwiol bren, Dy weled yn cyrraed gororau'r nen. Un tyner oen yn dragwyddol rydd Ffarweliodd â'r nos mewn tragwyddol ddydd, Pell o wres haul a'r gauaf du, Sy'n disgwyl am danat i'r Ganaan fry: Un fechan dyner, am enyd rodd lam I'r ddaear i ddysgu hoff enw "mam", A hedodd â'i chalon i'r gorwel pell, Nes denu ei henaid i'r wlad sydd well.Dr T Phillips, Llundain. Caniedydd yr Ysgol Sul 1899 Tôn: Y Tyner Oen (Lucas Williams) |
One tender lamb in the fold above, From the sun's heat and the black winter, Far above the world and its false dream, One expecting to see thee securely there A small one who was beloved of face and word Who is today walking the golden street; Or waiting, under the shade of the lively tree, To see thee reach the borders of heaven. One tender lamb eternally free Who said farewell to the night in eternal day, Far from the sun's heat and the black winter, Who is waiting for thee in the Canaan above: A small, tender one, eager to give a leap To the earth to learn the lovely name of "mam", Who flew with its heart to the distant horizon, Until the drawing of its heart to the land that is better.tr. 2016 Richard B Gillion |
|