Un waith am byth oedd ddigon I wisgo'r goron ddrain; Un waith am byth oedd ddigon I ddyodde'r bicell fain; Un aberth mawr gwirfoddol A ddofodd ddwyfol lid; Un Iesu croeshoeliedig Sy'n Feddyg trwy'r holl fyd. Bechadur, gwel E'n sefyll Yn llonydd ar y groes; Clyw'r gruddfan sy'n ei enaid Dan ddyfnder angeu loes; O! gwrando ar ei ruddfan, Mae pob ochenaid drud Yn floedd yn nghlustiau'r nefoedd Am faddeu beiau'r byd.1: priodolwyd i / attributed to Mary Owen 1796-1875 hefyd i / also to Catrin Rolant, o'r Graienyn, ger y Bala. hefyd i / also to William Williams 1717-91
Tonau [7676D]: gwelir: Bechadur gwel e'n sefyll Caed modd i faddeu beiau O enw ardderchocaf |
Once forever was enough To wear the crown of thorns; Once forever was enough To suffer the sharp spear; One great, voluntary sacrifice Which tamed divine wrath; One Jesus crucified Who is a Physician throughout the whole world. Sinner, see him standing Calmly on the cross; Hear the groaning that is in his soul Under the depth of the throes of death; O listen to his groaning, Every costly moan is A shout in the ears of heaven For the forgiveness of the world's faults.tr. 2014,22 Richard B Gillion |
|