Wedi oesoedd maith o d'wyllwch, Mae'r argoelion yn amlhau Fod cysgodau'r nos yn cilio A'r boreddydd yn nesáu; Haul Cyfiawnder, Aed dy lewyrch dros y byd. Mae rhyw gynnwrf yn y gwledydd Gyda thaeniad golau dydd, Sŵn carcharau yn ymagor, Caethion fyrdd yn dod yn rhydd: Hael Cyfiawnder, Aed dy lewyrch dros y byd. Nid oes aros, nid oes orffwys Mwyach i genhadau'r nef Nes cael holl dylwythau'r ddaear I'w oleuni hyfryd ef: Hael Cyfiawnder, Aed dy lewyrch dros y byd.Thomas Rees 1815-85
Tonau [878747]: |
After vast ages of darkness, The signs are multiplying That the shadows of the night are retreating And the morning is approaching; Sun of Righteousness, Let thy radiance go across the world. There is some turmoil in the nations With the spreading of the light of day, A sound of prisons opening, A myriad prisoners becoming free: Sun of Righteousness, Let thy radiance go across the world. There is no waiting, there is no rest Any more for the emissaries of heaven Until all the tribes of the earth find His delightful light: Sun of Righteousness, Let thy radiance go across the world.tr. 2014 Richard B Gillion |
|