Wel bellach tyr'd yn mlaen

1,2,3,(4,5).
  Wel, bellach, tyr'd yn mlaen, 
    Nac ofna, f'enaid mwy;
  Llai grym sy'n uffern dân
    Na dwyfol farwol glwy';
Mae'r gwaed, mae'r gwaed a gollodd Ef,
Yn ucha' ei bris o fewn y nef.

  Mae'r orsedd wen yn rhydd,
    Aeth Magdalen ym mlaen;
  Manasseh hefyd sydd
    Yn seinio'r nefol gân;
Hyfrydaf dôn,
      sŵn peraidd yw
Am ddwyfol nefol waed fy Nuw.

  Dystêwch, elynion mwy,
    Rhowch le tua phen fy nhaith;
  Chwi roisoch imi glwy'
    Disymwth lawer gwaith!
Ym mlaen, ym mlaen, mae'm trysor drud,
Tu hwnt i derfyn eitha'r byd.

  O fewn Caersalem lân
    Mi welaf fyrdd o saint,
  Ddiangodd yno 'mlaen
    Dros fryniau mawr eu maint;
Dilynaf ôl y dyrfa hon, 
Er dwr, a thân,
      a llif, a thòn. 

  O! tyred, Arglwydd mawr,
    'D oes yma ddim ond gwae,
  O eitha'r nen i lawr,
    Os na châf Dy fwynhau;
Y wledd, y wledd a'm
      gwna yn llon
Yw cael Dy wel'd y funyd hon.
William Williams 1717-91

Tôn [666688]: Eagle Street (<1835)

gwelir:
  Caned a welodd wawr
  Distewch elynion mwy
  Fy Iesu yw fy Nuw
  O tyred Arglwydd mawr ('Does ...)

  See, now, come along,
    Do not fear, my soul, any more;
  There is less force in hell fire
    Than a divine mortal wound;
The blood, the blood that he shed, is
Higher in price within heaven.

  The white throne is free,
    Magdalen went forward;
  Manasseh also is
    Sounding the heavenly song;
The most delightful tune,
      a sweet sound it is
About the divine heavenly blood of my God.

  Be silent, enemies, evermore,
    Give way toward my journey's end;
  Ye who gave gave me a wound
    Suddenly many a time!
Onward, onward, my precious treasure is
Beyond the utmost boundary of the world.

  Within holy Jerusalem
    I see a myriad of saints,
  Who escaped there ahead
    Over hills of great size;
I shall follow the trace of this throng,
Despite water, and fire,
      and flood, and wave.

  O come, great Lord,
    There is nothing here but woe,
  From the utmost heaven to the ground,
    If I do not get to enjoy thee;
The feast, the feast that
      shall make me cheerful
Is to get to see thee this minute.
tr. 2021 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~