Wel dyma ddydd addoli, a moli'r Arglwydd mawr, Mae'n weddus iawn i ninnau roi bawb ei liniau i lawr; A gwaeddi tu a'r nefoedd yn gyhoedd bod ag un, Am Yspryd Crist i'n dysgu, fel teulu'n fwy cyttun. Hwn ydyw'r Sabbath sanctaidd, mae'n weddaidd yma'n wir, I'r Arglwydd gael i'w barchu bob teulu yn y tir; Ac heddyw'n fwy cyhoeddus, a pharchus iawn trwy ffydd, Yn ol yr Ysgrythyrau, â'u hynod siamplau sydd. Boed Sabbath (Sanct) yr Arglwydd, byth er ein llwydd, a'n lles, Sef er ein dwyn yn dyner, o nifer rhai fo nes I gael y fuddugoliaeth ar annghrediniaeth oll, Trwy 'nabod mwy o'r Iesu, a'i garu yn ddi goll. Ti roddaist Sabbath ini addoli yn ddïau, Ac ini at dy fawredd mewn symledd gael nesâu; O dyro d'Yspryd hefyd i'n dysgu o hyd y daith, Trwy'n gwnethur yn fwy medrus a gweddus yn y gwaith. Er ini gael Sabbathau i ddarllen d'eiriau di, Rhy ddeillion a rhy gnawdol, anianol fyddwn ni; Ac oni chawn dy Yspryd, da, hefyd di dy hun, Ni chei, ond rhith ogoniant, yn bendant gan bob un.Edward Jones 1761-1836 Cofiant Edward Jones 1839 [Mesur: 13.13.13.13] |
See here is the day of worshipping, and praising the great Lord, It is very appropriate for us all to put down his knees; And shout towards the heavens publishing that he has one, Wanting the Spirit of Christ to teach us, like a family more united. This is the holy Sabbath, it is fitting here truly, For the Lord to get to revere him every family in the land; And today more publicly, and very reverential through faith, According to the scriptures, and their notable examples which there are. Let the (Holy) Sabbath of the Lord be, forever for our success and our benefit, That is to lead us tenderly, from a number of those that be nearer To get the victory over all unbelief, Through knowing more of Jesus, and loving him unfailingly. Thou gavest a Sabbath for us to worship doubtless, And for us to thy majesty in simplicity to get to approach; And grant thy Spirit also to teach us along the journey, Through making us more able and more worthy in the work. For us to get Sabbaths to read thy words, Too blind and too carnal, natural we would be; And unless we get thy good Spirit, also thee thyself Thou wilt only get an illusion of glory, peculiar to each one.tr. 2015 Richard B Gillion |
|