Wel dyma'r cyfaill goraf gaed
Wel dyma'r cyfaill goreu gaed/ga'd

1,2;  1,3,4,(5,(6,7,8,9));  1,3,4,10.
(Y Cyfaill goreu)
Wel dyma'r cyfaill goreu gaed,
Mae'n gan-mil gwell
    na mam na thad,
  Yn mhob caledi ffyddlon yw:
Mae'n medru maddeu a chuddio bai,
Ac o'i wir fodd yn trugarhau,
  Wrth bechaduriaid gwael eu rhyw. [MR]

O ddyfnder dae'r
    i eitha'r nef,
'Does gyfaill tebyg iddo ef,
  Yn gwybod fy ngwendidau' gyd;
Ac etto'n maddeu imi'n hael,
Y mwyaf o bech'duriaid gwael,
  Wel dyma Geidwad f'enaid drud.   [MR]

Y sawl a'th gaffo gwyn fyd hwy,
Ni allant byth ddymuno mwy;
  Ti lenwi eu heisiau' gyd o'r bron;
Mae môr a thir, a da a dyn,
Oll yn dy heddwch di dy hun,
  A mwy na fedd y ddaear hon.

Anghenus wyf bechadur gwan,
Am hyn 'rwy'n tynu tua'r làn,
  Yn gweled digon gan fy Nuw:
Trysorau pe cawn eu mwynhau,
A laddai ngofid, laddai ngwae,
  Ac a ngwnai'n llawen tra fwy'n byw.

Mae yn ei glwyfau drysor drûd,
I faddeu beiau pena'r byd,
  O flaen yr orsedd buraf sydd;
Ni all euogrwydd yno ddim,
Fe gyll holl ddeddf ei damniol rym;
  Troseddwr euog 'aiff yn rhydd.

'Does un aflendid unrhyw fai,
Nad yw ei haeddiant yn glanhau;
  Pechodau dua' glywid son,
A foddir yn yr afon fawr,
Mewn amryw liwiau ddaeth i lawr,
  O ystlys addfwyn nefol Oen.

Ni welodd llygad dyn erioed,
Ni chlywodd clust o dan y rhod
  Am neb cyffelyb iddo ef:
O! Rosyn Saron hardd ei liw!
Pwy ddyd i maes rinweddau 'Nuw?
  Efe yw bywyd nef y nef.

Wel f'enaid cerdd y ffordd yn hy',
Yn union tua Salem fry,
  A chadw'th lygaid at y nôd:
Calfaria fryn lle gweli'r groes,
A'i haberth arni tan ei loes,
  Rhyfeddod mwya'r nef erioed.

Fe welir Seion fel y wawr,
Er tloted yw ei gwedd yn awr,
  Yn d'od o'r cystudd mawr i'r làn:
Heb glaf na chlwyfus yn eu plith,
Yn y Cyfiawnder pur dilyth,
  Saif yn y diwedd yn ei rhan.

O ddedwydd nefol hyfryd awr,
Caf roddi meichiau trwm i lawr,
  Ag sy'n fy mlino foreu a nawn;
A myn'd i wlad lle nad oes bai,
Ond cariad perffaith i barhau,
  Llawenydd pur a heddwch llawn.
William Williams 1717-91
[MR] = Morgan Rhys 1716-79

Tonau [888D]:
Gresford (<1876)
Llangoedmor (John Jeffries 1718?-98)
Martins Lane (<1825)
Newcourt (Hugh Bond)
Sardis (<1825)
  Shepherd's Care (<1825)

gwelir:
  Anghenus wyf bechadur gwan
  Fe welir Seion fel y wawr
  Gwnaed concwest ar Galfaria fryn
  Mae dydd at ddydd yn dod i ben
  Ni welodd llygad dyn erioed
  Nis gall angylion nef y nef

(The best Friend)
See, here is the best friend ever had,
He is a hundred thousand times better
    than mother or father,
  In every hardship faithful he is:
He is able to forgive and hide a fault,
And voluntarily showing mercy,
  To sinners of the worst kind.

From the depth of earth
    to the extremity of heaven,
There is no friend similar to him,
  Knowing all my weaknesses;
And still forgiving me generously,
The greatest of base sinners,
  See here is the Saviour of my dear soul.

Those who get thee, blessed are they,
They cannot ever desire more;
  Thou fillest all their needs completely;
Sea and land, and beast and man, are
All in thy own peace,
  And more than this earth possesses.

Needy am I a weak sinner,
Therefore I am drawing towards the shore,
  Seeing sufficient from my God:
Treasures if I could get to enjoy them,
Which would slay my grief, slay my woe,
  And make me joyful while ever i live.

In his wounds there is costly treasure,
To forgive the chief faults of the world,
  Before the purest throne there is;
Guilt there cannot do anything,
All the law loses its condemning force;
  Guilty transgressors go free.

There is no uncleanness of any fault,
That his merit does not cleanse;
  The blackest sinners heard mention of,
Are to be drowned in the great river,
Which in a variety of colours came down,
  From the side of the dear heavenly Lamb.

The eye of man never saw,
Nor an ear heard under the sky
  About anyone comparable to him:
O Rose of Sharon with a beautiful colour!
Who shall tell out the merits of my God?
  He is the life of the heaven of heaven.

See my soul, walk the road boldly,
Directly towards Salem above,
  And keep thy eyes on the target:
Calvary hill where thou seest the cross,
And its sacrifice upon is under his throes,
  The greatest wonder of heaven ever.

Sion is to be seen like the dawn,
Despite how poor is her condition now,
  Coming up from the great tribulation:
Without sick or ailing in their midst,
In the pure, unfailing Righteousness,
  Which will stand in the end as its portion.

O happy, heavenly, delightful hour,
I will get to set my heavy burden down,
  Which is wearying me morning and afternoon;
And go to a land where there is no fault,
But perfect love to endure,
  Pure joy and full peace.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~