Fy enaid cod sefydla'th wammal fryd
O f'enaid c'od sefydla'th wam(m)al fryd
Wel f'enaid [c'od / côd] sefydla'th wammal fryd

1,2,3,4,6,7;  1,2,((4),5);  1,2,7,8,9;  1,2,4,(7),9,10,11.
(Iesu ffynnon cysur)
Wel f'enaid c'od,
    sefydla'th wammal fryd,
Myn'd heibio mae
    pleserau pena'r byd;
  O dring i fynu,
      ac anghofia'n awr
  Bob peth a eilw'r
      ddaear yma'n fawr.

Draw, draw, ym mhell
    tu hwnt i'r tywyll fedd,
Mae'th gysur oll,
    dy bleser, a dy hedd;
  Mae Iesu yno,
      Ef ei Hunan yw
  Y cwbl a feddi byth,
      yn farw a byw.

Nid oes dim trai,
    nid oes dim eisiau'n bod
O neb rhyw beth
    a enwir is y rhod;
  Mae nef a ddaear
      wrthyf fi ynghlŷn
  Er pan y rhoddaist
      imi gynt dy Hun.

Ffarwel, mi âf mwy
    tua gwlad o hêdd,
Mi anturia 'mlaen,
    er dychryniadau'r bedd:
  Mi wela 'Mhrïod
       pur addfwynaf draw,
  Yn wyneb angeu
       ar fy neheulaw.

Ffarwel,ffarwel,
    i welaf îs y ne',
Ond im' gael Duw
    yn unig yn eu lle;
  Mae fy nymuniad
      yn terfynu yn un, 
  Heb ddim yn eisieu
      ynddo fe ei hun.

Wel tyrd ymlaen
    alluoedd uffern faith,
'R wy'r awrhon bron
    dibennu ar fy nhaith;
  'D wy' ddim yn ofni'ch
      saethau o un rhyw
  Tra fyddo gydaf Un
      ag sydd yn Dduw.

Mae enw'm IOR
    fel ysol nerthol dân,
Dim dàn y nef
    ni safa byth o'i flaen;
  Yr iachawdwriaeth
      werthfawr sydd o hyd
  Yn gwneud i uffern
      gref i grynu i gyd.

O'r enwau oll
    a roddir i fy Nuw,
Hwnw ei hun
    y gwerthfawrocaf yw,
  Hwnw a gafodd Ef
      ar Galfari,
  Pan y dïoddefodd
      dros fy enaid i.

Rho allu im',
    fy Nuw, o hyn i maes,
I ddweud yn dda
    am dy anfeidrol râs;
  Ac na bo genyf
      neges yma mwy,
  Ond ymhyfrydu
      yn dy farwol glwy'.

Cael gwel'd dy wêdd
    a phrofi'th nefol ddawn,
'Wna ynof ryw
    gyfnewid rhyfedd iawn;
  Dim ond cael gwel'd
      dy wyneb hyfryd, sydd,
  Yn troi tywyllwch
      nos yn ganol dydd.

O gwawria'n glau
    ddedwyddaf happus ddydd,
O'r carchar caeth
    i'm henaid fyn'd yn rhydd:
  Dysgwyl yr wyf
      bron weithiau a llwyfrâu,
  O law pob gelyn
      am gael fy rhyddâu.
Wel f'enaid c'od :: Fy enaid côd :: O f'enaid c'od
Myn'd heibio mae pleserau :: Mae heibio'n myn'd bleserau
dwfwn :: dwfn :: tywyll
ef ei hunan :: fe ei hunan
feddi byth, yn farw a byw :: feddaf byth i farw a byw
Mi anturia 'mlaen :: Anturio wnaf
Dim dàn y nef :: O dan y nef
safa byth o'i flaen :: saif dim byth o'i flaen
y gwerthfawrocaf yw :: werthfawr sydd o hyd :: werthfawrocaf ddrud
Yn gwneud i uffern gref :: Sy'n gwnëyd i uffern fawr
o hyn i maes :: a'm hanwyl Dad
dy anfeidrol râs :: iachawdwriaeth rad
Ac na bo genyf neges :: Na byddo neges genyf

William Williams 1717-91

Tonau [10.10.10.10]:
Clod (hen garol Gymreig)
Coburg (alaw Ellmynig)
Dalkeith (Thomas Hewlett 1845-74)
Guestwick (<1829)
Holly (George Hews 1806-73)
  Pilgrim's Song (Genevan Psalter 1551)
  Wearisome (<1829)

gwelir: Mae enw'm IOR fel ysol nerthol dân

(Jesus a fount of comfort)
See, my soul, arise,
    steady thy wavering heart,
Passing are the chief
    pleasures of the world;
  Oh climb up,
      and forget now
  Everything which this
      earth calls great!

Yonder, yonder, far
    beyond the darkness of the grave,
Is all thy comfort,
    thy pleasure, and thy peace;
  Jesus is there,
      He Himself is
  All thou wilt ever possess,
      in dying and living.

There is no ebbing,
    there is no need at all
Of any kind of thing
    named under the sky;
  Heaven and earth are
      connected to me
  Ever since thou gavest
      thyself once to me.

Farewell, I am going henceforth
    towards a land of peace,
I shall venture forward,
    despite the horrors of the grave:
  I shall see my pure,
      dearest Spouse yonder,
  In the face of death
      at my right hand.

Farewell, farewell,
    to what I see below heaven,
If only I get God
    alone in their place;
  My wish is
      ending the same,
  Without anything lacking
      in him himself.

So come on
    ye powers of vast hell,
I am now almost
    reaching my journey's end;
  I am not fearing your
      arrows of any sort
  While there is with me One
      who is God.

The name of my Lord
    is like strong, consuming fire,
Nothing under heaven
    will ever stand before it;
  The valuable
      salvation is still
  Making strong hell
      tremble altogether.

Of all the names
    to be given to my God,
This itself is
    the most valuable,
  This He got
      on Calvary,
  When he suffered
      for my soul.

Give strength to me,
    my God, from now on,
To speak well about
    thy immeasurable grace;
  And may I have
      no errand here any more,
  But to delight myself
      in thy mortal wound.

To get to see thy countenance
    and experience thy heavenly gift,
Make in me some
    very wonderful change;
  Only to get to see
      thy lovely face, which is,
  Turning the darkness
      of night into midday.

O dawn quickly
    most blessed, happy day,
From the captive prison
    for my soul to go free;
  Expecting I am,
      sometimes almost losing heart,
  From the hand of every enemy
      to be set free.
See, my soul, arise :: My soul, arise :: O my soul, arise
::
deep :: deep :: dark
::
thou wilt ever possess, in dying and in living :: I will ever possess to die and to live
I shall venture forward :: Venture I shall
Nothing under heaven :: Under heaven
shall stand before him :: nothing shall ever stand before him
the most precious is :: precious is always :: most precious, costly
Making strong hell :: Which is making great hell
from now on :: and my beloved Father
thy immeasurable grace :: free salvation
And may I have no message :: May I have no message

tr. 2012,20 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~