Wel f'enaid cerdd y fordd yn hŷ
Wel f'enaid cerdda'n mlaen yn hy'

(Hyder y Cristion)
Wel f'enaid cerdd y fordd yn hŷ,
Yn union tua Sïon frŷ,
  A chadw'th lygaid ar y nôd;
Calfaria fryn lle gweli'r groes,
A'i haberth arni
    tan ei loes,
  Rhyfeddod mwya'r nef erioed.

Mae meddwl am yr oriau pur,
Câf rodio'r
    Baradwysaidd dîr,
  Ac yfed pleser sy'n parhau;
Mewn gwlad heb lewyrch haul na lloer,
Na therfysg tîr na thwrf y môr,
  Yn fy rhoi'n awr i lawenhau.

Datguddia'n gyflawn i mi ar frys,
Ogoniant maith dy nefol lŷs,
  Didranc bleserau'r sanctaidd dîr:
O dangos im' mai ti yw'm rhan,
A d'wed cai ddyfod yna i'r làn,
  I'th gyflawn weled cyn bo hîr.

Fe welir Sïon fel y wawr
Er tloted yw eu gwêdd yn awr,
  Yn dod o'r cystudd mawr i'r làn;
Heb glâf na chlwyfus yn eu plith,
Yn y cyfiawnder dwyfol byth,
  Saif yn y diwedd
      yn eu rhan.

              - - - - -

Wel f'enaid cerdd y fordd yn hy'
Yn union tua Seion fry,
  A chadw'th lygad ar y nôd;
Calfaria fryn lle gweli'r groes,
A'i haberth arni
    tan ei loes;
  Rhyfeddod mwya'r nef erioed.

Mae'r bryn yn uchel, uchel iawn,
A'r aberth drud yn eglur lawn,
  Fel gallo'r dwyrain bell a'r de,
Y dynion lle mae'n dywell nôs,
Er t'w'lled. edrych tua'r groes,
  A gweled Ei drywanu E'.

Fe all yr Indiaid pellaf gaed
I wel'd yr hoelion yn Ei draed,
  A gwel'd Ei ben yn crymu i lawr;
Fe ylch y pelledigion hyn
Y'n gànaid fel yr eira gwỳn,
  Oddi wrth eu beiau, fach a mawr.
William Williams 1717-91

Tonau [888D]:
Altorf (alaw Ellmynig)
Mawl (William T Rees 1838-1904)
Pengwern (<1875)
Rugby (<1869)

gwelir:
  Fe welir Seion fel y wawr [888D]
  Fe welir Seion fel y wawr [MCD]
  Ni welodd llygaid dyn erio'd
  Pa bryd y ffŷ cymylau'r nos

(The Confidence of the Christian)
See, my soul, walk the way boldly,
Directly towards Zion above,
  And keep thy eyes upon the mark;
Calvary hill where thou seest the cross,
And its sacrifice upon it
    under his anguish,
  The greatest wonder of heaven ever.

The greatest thought about the pure hours,
That I shall get to walk the
    Paradisiacal land,
  And drink pleasure which is enduring;
In a land without radiance of sun or moon,
Nor tumult of land nor agitation of sea,
  Is making me now rejoice.

Reveal fully to me quickly,
The vast glory of thy heavenly court,
  The undying pleasures of the holy land:
O show to me that thou art my portion,
And say thou mayst come up there,
  To be fully seen before long.

Zion is to be seen like the dawn
Despite how poor is their appearance now,
  Coming from the great affliction up;
Without any ill or wounded amongst them,
In the divine righteousness forever,
  They shall stand in the end
      in their portion.

                - - - - -

See, my soul, walk the way boldly
Directly towards Zion above,
  And keep thy eye upon the mark;
Calvary hill where thou seest the cross,
And its sacrifice upon it
    under his anguish;
  The greatest wonder of heaven ever.

The hill is high, very hill,
And the costly sacrifice is fully clear,
  That the far east and the south can see,
The men where it is dark night,
Despite how dark, look towards the cross,
  And see his piercing.

The most distant Indians may get
To see the nails in his feet,
  And see his head bowing down;
He will wash these distant ones
He will bleach them like the white snow,
  From their faults, small and great.
tr. 2017,20 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~