Wele gadarn sylfaen Seion, Ar y graig dragwyddol gref! Pan falurio'r bryniau mawrion, Saif preswylfa Brenin nef: Wele ddisglair furiau'r ddinas! Wele'i 'strydoedd hardd eu gwedd! Wele, mewn adeilad addas Orsedd fainc Tywysog hedd! Ar yr amryw wych ddinasoedd Mawr ragora Seion gu; Duw ei hun a adeiladodd Yno'i deg frenhinol dŷ: Gogoneddus bethau rhyfedd A ddatguddir am y gaer; Hardd Gaersalem yw gorfoledd Ac anrhydedd yr holl ddae'r. Hoffa'r Arglwydd ei phyrth gloywon, Lle daw'r llwythau llon ynghyd; Lle ymgynnull ei chantorion A'i cherddorion o un bryd: O mor hyfryd yw'r cyfarfod! O'r fath orfoleddus lu! Pêr ddatseinia'r ddinas hynod Wrth foliannu'r Brenin cu.Benjamin Francis 1734-99
Tonau [8787D]: |
See the firm foundation of Zion, On the strong, eternal rock! When the great hills crumble, The dwelling of the King of heaven shall stand: See the city's shining walls! See her streets of a beautiful appearance! See, in a suitable building The throne of the Prince of peace! Over the various brilliant cities Greatly does dear Zion excel; God himself has built There his fair royal house: Glorious things of wonder Shall be revealed about the citadel; Beautiful Jerusalem is the joy And the honour of the whole earth. The Lord favours her shining gates, Where the tribes joyfully come together; Where her singers gather With her musicians of one intent: O how delightful is the meeting! O what a jubilant throng! Sweetly shall resound the notable city While praising the dear King.tr. 2024 Richard B Gillion |
|