Wele helaeth law rhagluniaeth

(Gofal Rhagluniaeth)
Wele helaeth law rhagluniaeth,
  Mewn modd odiaeth mae o hyd;
Yn mhob llefydd trwy y gwledydd,
  Yn gweithio beunydd yn y byd:
O mor ddyfal yw ei gofal
  'N rhoi i gynal pawb i gyd;
Ymborth rhadol angenrheidiol,
  Yn briodol yn ei bryd.

Mae y ddaear fawr yn ddiau,
  Dan ei llwythau dyna'i llun!
Yn rhoi peraidd ymborth parod,
  Doniau hynod Duw ei hun;
Mawl i'r Trefnwr a'r Cynhaliwr,
  Mae E'n rhoddwr ufudd rhad;
Doed rhinweddau i'n calonau; -
  Dyna'r doniau nefol Dad.

- - - - -
(Can i'r Cynhauaf)
Wele helaeth law rhagluniaeth,
  Mewn modd odiaeth mae o hyd;
Yn mhob llefydd trwy y gwledydd,
  Yn gweithio beunydd yn y byd:
Mewn modd dilys gwiwdda gweddus
  Rhydd a'i dawnus 'wyllys da;
Rwyd i bob peth er cynhaliaeth,
  Hyn o gywaeth hwn a ga!
O mor ddyfal yw ei gofal,
  'N rhoi i gynnal rhai'n i gyd;
Ymborth rhadol angenrheidiol,
  Yn briodol yn ei bryd.

Llysiau, ffrwytha, yn y dechrau,
  Wrth eu rhywiau hon a'n rhodd;
Amser dodi a phryd medi,
  Mewn goleuni ini glodd:
Yn ddiysgar ddyddiau'r ddaear,
  I bara'n hawddgar bur o hyd;
I ddangos gofal dianwadal,
  Bwyd i gynnal byd i gyd;
Rhoi mae'r cyfion i'w elynion,
  Yma i ddynion y mae'n dda!
I'r rhai diffaith rhodd gynhaliaeth,
  A gallu helaeth a'u gwellha!

Er ymdrechu ac armaethu,
  Troi a llyfnu
      trin y llawr;
Planu llysiau a hau hadau,
  Ni ddaw cnydiau eto'n awr,
Heb i'r Arglwydd beri cynydd,
  Ar bob ffrwythydd defnydd doeth;
Trwy ei fendith tyf y gwenith,
  Ac eginith hadau coeth:
Iawn gynnyddant ac addfedant,
  In' yn borthiant anian bur;
Pawb gweddied Duw bendiged,
  Boed yn gwared byd o'i gur.

Rhoi gwisg newydd mae yr Arglwydd
  Am y lefydd ar y llawr;
A thew gnydau amryw ffrwythau,
  Dirfawr foddau daear fawr!
Duw sy'n trefnu a darparu,
  Ac addfedu yn ddi feth;
Ymborth helaeth a chynnaliaeth,
  A bywioliaeth i bob peth;
Mae y ddaear fawr yn ddiau,
  Dan ei llwythau dyna'i llun!
Yn rhoi peraidd ymborth parod,
  Doniau hynod Duw ei hun.

Meusydd gwynion harddwych ffrwythlon,
  Arfaeth llymion sydd gerllaw;
A pladuriau a'r crymanau,
  Gwir yn ddiau gwyr a ddaw:
Rhai a'i lladdant, lleill a fedant,
  Hwy gynnullant hwn yn hŷ;
Daw picwarchau a chribiniau,
  Yn mhob lluniau ato'n llu:
Meibion, merched fydd i'w gweled,
  Yn fawr eu lludded ar y llawr;
Y rhai gwana' fydd yn lloffa,
  Tywysenau gwycha'u gwawr!

Gwelir eto gwyr i'w gario,
  Ac i'w gludo ef yn glau;
I'r ŷdlanau a'r 'sguboriau,
  Tra bo'r prydiau yn parhau,
In' i'w gasglu - diogelu
  Rhag ei lygru ef ar lawr,
Nes daw ffustiau, gwynt, a gograu,
  'R felin hithau i falu'n 'n awr!
Mawl i'r Trefnwr a'r Cynhaliwr,
  Mae E'n rhoddwr ufudd rhad;
Doed rhinweddau i'n calonau,
  Dyna'r doniau nefol Dad.
Robert Humphreys 1779-1832

[Mesur: 8787D/8787T]

(The Care of Providence)
See the abundant hand of providence
  In an excellent way it is still;
In every place throughout the nations,
  Working daily in the world:
O how devoted is its care
  Giving to uphold everyone altogether;
Gracious needed sustenance,
  Appropriate in its time.

The great earth is doubtless,
  (Under its loads, behold its condition!)
Giving sweet ready sustenance,
  The notable gifts of God himself;
Praise to the Ordainer and the Upholder,
  He is the faithful gracious giver;
Let virtues come to our hearts; -
  Behold the gifts of a heavenly Father.

- - - - -
(Song for the Harvest)
See the abundant hand of providence,
  In an excellent way it is still;
In every place throughout the nations,
  Working daily in the world:
In a genuine worthy good appropriate way
  It gives with its gifted good will;
Everything given for the sake of support,
  Is such wealth as one may get!
O how devoted is its care,
  Giving to uphold these altogether;
Gracious needed sustenance,
  Appropriate in its time.

Vegetables, frujits, in the beginning,
  According to their kind it gives us;
A planting time and a harvest time,
  In light for us to dig:
In the stedfast days of the earth,
  To remain amiably pure always;
To show anwavering care,
  Food to sustain a whole world;
Giving are the righteous to their enemies,
  Here to men it is good!
To the destitute a gift of sustenance,
  And abundant power to heal them!

Despite struggling and feeding,
  Turning and smoothing,
      treating the ground;
Planting vegetables and sowing seed,
  No crops will come yet,
Unless the Lord causes an increase,
  On every fruiterer's wise practice;
Through his blessing the wheat shall grow,
  And fine seeds shall sprout:
Well they shall increase and mature,
  For us as feed for a pure nature;
Let everyone pray that God would bless,
  May he deliver the world from its pain.

Giving new clothing is the Lord
  For the places on the ground;
And thick crops of various fruits,
  The tremendous means of a great earth!
'Tis God who is ordering and providing,
  And maturing unfailingly;
Abundant pasture and sustenance,
  And livelihood for every thing;
The great earth is doubtless,
  (Under its loads, behold its condition!)
Giving sweet ready sustenance,
  The notable gifts of God himself.

Beautiful white fruitful fields,
  Sharp implements are at hand;
With scythes and sickles,
  Truly, doubtless, men shall come:
Some shall cut down, others shall reap,
  They shall gather this boldly;
Pichforks and rakes shall come,
  In every condition to it as a host:
Sons, daughters shall be seen,
  Greatly exhausted on the ground;
The weakest ones shall glean,
  The ears of most brilliant dawn!

Men again shall be seen to carry them,
  And to convey them quickly;
To the garners and the barns,
  While ever the occasions continue,
For us to gather them - preserve
  Them from being spoilt on the ground,
Until threshings, wind, and sieves come,
  The mill itself to grind now!
Praise to the Ordainer and the Upholder,
  He is the faithful gracious giver;
Let virtues come to our hearts,
  Behold the gifts of a heavenly Father.
tr. 2024 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~