Wele'r Barnwr yn ei gerbyd, 'R Udgorn mawr yn canu o'i flaen; Nawr ymgasgla'r meirw cysglyd, Oll ger bron ei orsedd lân: Haleluia, &c. Groesaw anwyl Grist o'r nef. 'R annuwiolion gânt ei weled, Ar y cwmmwl goleu mawr; Nid oes iddynt mwy ymwared, Darfu'u llwyddiant ar y llawr: Haleluia, &c. Daeth ofnadwy ddydd y farn! Gorfoledda y ffyddloniaid, A'u llawenydd fydd yn llawn; Daeth eu Prynwr mawr bendigaid, A'u Gwaredwr 'anwyl iawn: Haleluia, &c. Escyn 'n awr y saint i'r nef. "Dewch i'r gwynfyd a'r gogoniant, Fendigedig blant fy Nhad; Cym'rwch orfoleddus feddiant O'r drag'wyddol deyrnas rad:" Haleluia, &c. "Gwisgwch eich coronau hardd."Benjamin Francis 1734-99 Diferion y Cyssegr 1809 |
See the Judge in his chariot, The great trumpet playing before him; Now the sleepy dead gather together, All before his holy throne: Hallelujah, &c. Welcome, dear Christ from heaven. The ungodly ones shall get to see him, On the great bright cloud; There is no more deliverance for them, All their prosperity on the earth perishes: Hallelujah, &c. The terrible day of judgment has come! The faithful ones shall rejoice And their joy shall be full; Their great Redeemer, and their Very dear Deliverer has come: Hallelujah, &c. Now the saints shall ascend to heaven. "Come to the blessedness and the glory, Ye blessed children of my Father; Take jubilant possession Of the eternal gracious kingdom:" Hallelujah, &c. "Wear your beautiful crowns."tr. 2021 Richard B Gillion |
|