Wel dyma'r eiddil dyma'r gwan

1,2,3,(4,(5,6));  1,2,4,5;  1,3,4.
(Gobaith trwy'r Gwaed / Cwyn yr Edifeiriol)
Wel, dyma'r eiddil,
    dyma'r gwan,
  Yn gruddfan wrth dy draed,
Tu hwnt pob gobaith i gael byw
  Ond trwy dy ddwyfol waed.

Rhifedi 'meiau sydd dros ben
  Pob haeddiant oll o dyn;
Ac nid oes genyf noddfa im
  Ond haeddiant Duw ei hun.

Mor anobeithiol yw fy mriw,
  'D a'i mofyn
       meddyg mwy
Ond ato 'i Hunan ar y pren
  Ddioddefodd farwol glwy'.

Am iddo yno grymu Ei ben,
  A marw ar y groes,
Mwy na rhifedi
    beiau'r byd
  Yw haeddiant dwyfol loes.

Wel, dyma'r unig fan y mae,
  Os oes, im gael iachad;
Ac yma credaf, os caf rym,
  Mewn dynol ddwyfol waed;

Ac yna gwnaed y ddaear fawr
  Ei gwaethaf, foreu_a nawn;
O fewn fy noddfa sanctaidd bur,
  Y byddaf ddedwydd iawn.
ddwyfol waed :: werthfawr waed

William Williams 1717-91
Môr o Wydr 1773

Tonau [MC 8686]:
Bangor (alaw Gymreig)
Cheshire (Salmydd Este 1592)
Old Martyrs (Scottish Psalter 1635)
Claudius Ptolemeus (A H Mann 1850-1929)
Gwrecsam (alaw Gymreig)
Ludwig (L van Beethoven 1770-1827)
Rhydygarnedd (David J de Lloyd 1883-1948)
St Mary (Prys's Psalter 1621)
Uxbridge (J H Roberts 1848-1924)
Windsor (Christopher Tye c.1505-73)

gwelir: Nis gall angylion pur y nef

(Hope through the Blood / Complaint of the Repentant)
See, here is the feeble one,
    here is the weak one,
  Groaning at thy feet,
Beyond all hope to get to live
  But through thy divine blood.

The numbers of my sins exceed
  Every merit of all of man;
And I have no refuge for me
  But the merit of God himself.

How hopeless is my bruise,
  I am not going to ask for
      a physician any more
But for him Himself who on the cross
  Suffered a mortal wound.

Because he there bowed His head,
  And died on the cross,
Greater than the numbers
    of the faults of the world
  Is the merit of his divine anguish.

See, here is the only place there is,
  If any, for me to get healing;
And here I believe, if I get force,
  In human, divine blood.

And there did the great earth
  Its worst, morning and afternoon;
Within my holy, pure refuge,
  I shall be very happy.
divine blood :: precious blood

tr. 2016 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~