Wel f'enaid hêd yn mlaen o hyd

(Gwleddoedd cartref)
Wel, f'enaid, hed yn mlaen o hyd,
Yn mhell, yn mhell oddi ar y byd,
  I'r gwledydd sydd
      heb wae na phoen,
  Ond canu cariad addfwyn Oen.

Lle'r eiste'r seintiau yn gyttûn,
Dan eu gwinwydden bêr eu hun,
  A'r melus win yn ffrydio i lawr,
  Yn lloni eu hysbryd bob yr awr.

O! wleddoedd hyfryd eu mwynhâd,
Mor hyfryd eilwaith eu parhâd;
  Gwleddoedd na ŵyr
      y byd eu dawn,
  Gânt loni'm henaid
      foreu a nawn.
William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Lancaster (Llyfr Tonau Cynulleidfaol 1868)
Melcombe (S Webbe 1740-1816)
Sebastian (Daniel Vetter)

gwelir: Y moroedd mawr a'r ddaear faith

(Feasts of home)
See, my soul, fly onwards always,
Far, far off from the world,
  To the lands that are
      without woe or pain,
  But sing the love of the dear Lamb.

Where the saints sit in agreement,
Under their own sweet vines,
  And the sweet wine is flowing down,
  Cheering their spirit every hour.

O delightful feasts to enjoy!
How delightful again their continuing;
  Feasts the world knows
      nothing of their gift,
  They may cheer my soul
      morning and evening.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~