Wele'r dydd yn gwawrio draw

1,2,3,4,5;  1,2,3,(6),7.
Wele'r dydd yn gwawrio draw,
Amser hyfryd sydd gerllaw;
  Daw'r cenhedloedd yn gytūn
  I ddyrchafu Mab y Dyn.

Gwelir teyrnas Iesu mawr
Yn ben moliant ar y llawr;
  Gwelir tŷ ein Harglwydd cu
  Goruwch y mynyddoedd fry.

Gwelir pobloedd lawer iawn
Yn dylifo ato'n llawn;
  Cyfraith Iesu gadwant hwy
  Ac ni ddysgant ryfel mwy.

Llwyddo wnaed Efengyl hedd,
Miloedd ynddi gaffont wledd;
  Gwneler meirwon fyrdd yn fyw
  Trwy Efengyl gallu Duw.

Deued gogedd, dwyrain, de,
I foliannu Brenhin ne';
  Doed terfynau maith y llawr
  I ddyrchafu'i Enw mawr.

Fe geir gweled Babel fawr
Wedi syrthio oll i lawr,
  A'r teyrnasoedd mawr eu bri
  Oll yn eiddo'n Harglwydd ni.

Yna clywir yn y nef
Fawl i'r Oen ag uchel lef:
  "Aeth teyrnasoedd
    byd a'u bri
  Oll yn eiddo'n Harglwydd ni!"

            - - - - -

Wele'r dydd yn gwawrio draw,
Amser hyfryd sydd gerllaw;
  Daw'r cenhedloedd yn gytūn
  I ddyrchafu Mab y Dyn.

Llwyddo wnaed Efengyl hedd,
Miloedd ynddi gaffont wledd;
  Gwneler meirwon fyrdd yn fyw
  Trwy Efengyl gallu Duw.

Fe gair gweled Babel fawr
Mewn un awr yn syrthio 'lawr,
  Teyrnasoedd byd yn fawr eu bri
  Yn d'od eiddo'n Harglwydd ni.

Deued gogedd, dwyrain, de,
I foliannu Brenhin ne';
  Doed terfynau maith y llawr
  I ddyrchafu'i Enw mawr.

Cair gweled Seion, dedwydd awr,
Yn ben moliant ar y llawr;
  Mynydd tŷ ein Harglwydd ni,
  Ymhen y mynyddoedd fry.

Fe fydd pobloedd amal iawn
Yn dylifo atto'n llawn;
  Gan ddweud i dŷ'r Arglwydd awn,
  Heddwch yn ei lwybrau cawn.

Fe geir clywed yn y nef
Fawl i'r Oen ag uchel lef;
  Syrthiodd, syrthiodd Babilon,
  Mwyach byth ni chyfyd hon.
John Thomas 1730-1803
arallwyd gan   |   altered by
Thomas Jones 1756-1820

Tonau [7777]:
  Aberglaslyn (Maldwyn R Williams)
Corinth (Gesangbuch Freylinghausen)
Culbach (Heilige Seelenlust 1657)
Cyprus (Felix Mendelssohn 1809-47)
Dix (C Kocher / W H Monk)
Durham (alaw eglwysig)
  Gwawr (o "Emyn Donau", Hughes a'i Fab, Wrecsam)
Horeb (J H Richards 1873-)
Iesu Tirion / Gentle Jesus (Martin Shaw 1875-1958)
Innocents (1850 "The Parish Choir")
Melton (Jonathan Battishill 1738-1801)
  Nomen Domini (Horn Gesangbuch 1544)
Trecynon (Ernest Evans 1904-)

 
See the day dawning yonder,
A delightful time is at hand;
  The nations will come in agreement
  To exalt the Son of Man.

The kingdom of great Jesus will be seen
At the head of praise on the earth;
  Our dear Lord's house will be seen
  High above the mountains.

Many peoples will be seen
Flowing to it fully;
  The law of Jesus they will keep
  And they will not learn war any more.

Let the Gospel of peace prosper,
May thousands get a feast in it;
  May a myriad dead be seen alive
  Through the Gospel of God's power.

Let north, east, south come,
To praise the King of heaven;
  Let the vast ends of the earth come
  To exalt his great Name.

Great Babel will be able to be seen
 Having fallen all to the ground,
   And the kingdoms of great honour
   All belonging to our Lord.

Then will be heard in heaven
Praise to the Lamb with a loud cry:
  "The kingdoms of the world
    and their honour have become
  All belonging to our Lord!"

                - - - - -

See the day dawning yonder,
A delightful time is at hand;
  The nations will come in agreement
  To exalt the Son of Man.

Many peoples will be seen
Flowing to it fully;
  The law of Jesus they will keep
  And they will not learn war any more.

Great Babel will be able to be seen
In one hour falling down,
  Kingdoms of a world of great honour
  Coming to belong to our Lord.

Let north, east, south come,
To praise the King of heaven;
  Let the vast ends of the earth come
  To exalt his great Name.

Zion shall get to be seen, happy hour,
As head of praise on the earth;
  The mountain of the house of our Lord,
  At the head of the mountains above.

Peoples shall very often
Pour towards it fully;
  Saying "to the Lord's house let us go,
  Peace his his paths we may have."

To be heard in heaven shall be
Praise to the Lamb with a loud cry;
  Fallen, fallen is Babylon,
  Never more to rise is she.
tr. 2009,18 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~