Wele et(t)o un yn rhagor

1,2,(3).
(Blwyddyn Newydd)
Wele eto un yn rhagor
  O flynyddau f'einioes frau,
O fy enaid, wedi darfod -
  Mae'r ddiweddaf yn nesau!
Nid oes yma hir arosfa,
  Rhed fy nyddiau yn ddigoll;
Ac fe all y flwyddyn yma
  Fod i mi'r ddiweddaf oll.

Deffro f'enaid yn ddifrifol,
  Gyda gofal dwys yn awr,
Ystyr, tra parhao'th amser,
  Feithder tragwyddoldeb mawr!
Beth yw sylfaen dy ddysgwyliad
  Am fwynhau tragwyddol hedd?
Beth wy d'obaith am y gwynfyd
  Sy'n y byd tu draw i'r bedd?

Dal yn gadarn dy grediniaeth,
  Dod dy obaith ar dy Dduw;
Ymddibynna hefyd beunydd
  Ar ei ras tra byddych byw;
Gyda sêl anturia'n wrol
  Yn dy yrfa nefol gu,
Nes cyrhaeddyd mewn sirioldeb
  Barthau anfarwoldeb fry.
flynyddau :: flynyddoed
Beth yw d'obaith :: Beth yw'th obaith

Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) 1766-1850

Tonau [8787D]:
Cwynfan Prydain (alaw Gymreig)
Diniweidrwydd (alaw Gymreig)
Eifionydd (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Everton (Henry Smart 1813-79)
Tanymarian (E J Stephen 1882-85)

(A New Year)
See again another one
  Of the years of my fragile lifespan,
O my soul, having passed away -
  The last is approaching!
There is not long here a place to stay,
  My days run unfailingly;
And this year can
  Be to me the last of all.

Awake my soul seriously,
  With extreme care now,
Consider, while thy time endures,
  The vastness of a great eternity!
What is the foundation of thy expectation
  To enjoy eternal peace?
What is thy hope for the bliss
  Which is in the world beyond the grave?

Hold firmly thy belief,
  Put thy hope on thy God;
Depend also daily
  On his grace while ever you live;
With zeal venture bravely
  In thy dear, heavenly course,
Until reaching in happiness
  Immortal regions above.
::
::

tr. 2016 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~