Wrth rodio gyda'r Iesu Ar y daith, Mae'r ofnau yn diflannu Ar y daith; Mae gras ei dyner eiriau, A golau'r ysgrythyrau, A hedd ei ddioddefiadau Ar y daith, Yn nefoedd i'n heneidiau Ar y daith. Wrth rodio gyda'r Iesu Ar y daith, Ein calon sy'n cynhesu Ar y daith: Cawn wres ei gydymdeimlad, A'n cymell gan ei gariad A grym ei atgyfodiad Ar y daith: O diolch byth am Geidwad Ar y daith.Ben Davies 1864-1937
Tonau [73.73.7773.73]: |
While travelling with Jesus On the journey, The fears are disappearing On the journey; The grace of his tender words, And the light of the scriptures, And the peace of his sufferings On the journey, Are heaven to our souls On the journey. While travelling with Jesus On the journey, Our hearts are warmed On the journey; We get the warmth of his sympathy, And our motivation by his love And the strength of his resurrection On the journey: Oh thanks forever for a Saviour On the journey!tr. 2010 Richard B Gillion |
|