Wrth deimlo llesgedd f'enaid gwan, 'Rwy'n tynu cysur yn mhob man, O'r hen addewid fawr ei gwerth, "Yn ol dy ddydd y bydd dy nerth." Er bod yn mhell o dŷ fy Nhad, Fel alltud mewn estronol wlad, Mae im' addewid fawr ei gwerth, "Yn ol dy ddydd y bydd dy nerth." Er gwaethaf Satan, cnawd, a byd, A'r holl elynion sy' im' i gyd, Fe ddaw fy enaid bach yn rhydd, "Yn ol dy ddydd y bydd dy nerth."John Williams (Ioan ab Ioan) 1800-71
Tôn [MH 8888]: |
While feeling the feebleness of my weak soul, I am drawing comfort in every place, From the old promise of great worth, "After thy day shall be thy strength." Although being far from my Father's house, Like an alien in a strange land, There is for me a promise of great worth, "After thy day shall be thy strength." Despite the worst of Satan, flesh, and world, And all the enemies I have altogether, My little soul shall come free, "After thy day shall be thy strength."tr. 2017 Richard B Gillion |
|