Wrth deithio trwy yr anial cras, Cawn fyw ar fanna dwyfol ras; Mae drws trugaredd Duw o hyd Yn llawn agored at y byd: A daw y fendith yn ei phryd I deulu Duw. Er lleied sydd, drwy'r ddaear lawr, O ddim i dorri'n heisau mawr, Mae holl gyflawnder Duw ynghyd Yng nghadw yn ein Ceidwad drud; A glwydda ar Ei hedd o hyd Gaiff teulu Duw. Pan ddaw y nos i dduo'r llawr, Cawn rodio 'ngoleu nefol wawr: Yng nghwmni Duw goleuni sydd I'n harwain ar hyd llwybrau ffydd, Nes torro gwawr tragwyddol ddydd Ar deulu Duw.W Evans Jones (Penllyn) 1854–1938 Tôn [88.888.4]: Castell Emlyn (J Ambrose Lloyd 1815-74) |
While travelling through the arid desert, I will get to live on the manna of divine grace; The door of God's mercy is still Fully open to the world: And the blessing will come in its time To the family of God. Although it is so small, throughout the earth below, From nothing to break our great need, All the fullness of God altogether is Kept in our precious Saviour; And to feast on His peace always Shall the family of God get. When the night comes to blacken the ground, We may get to walk in the light of heavenly dawn: In the company of God there is light To lead us along the paths of faith, Until the dawn of eternal day breaks Upon the family of God.tr. 2017 Richard B Gillion |
|