Wrth dy orsedd 'r wyf yn gorphwys, Llefain fore a phrydnawn, Am gael clywed llawn ddistawrwydd, O'm heuogrwydd tanllyd iawn: A thangnefedd, &c. Pur o mewn yn cadw ei le. 'D oes ond gras yn eitha'i allu Ddaw ā'm henaid idd ei le; 'Does ond unig ras a'm ceidw O fewn muriau'i gariad ef: Uwch law dyfais, &c. Dyn a'i allu, mae ei rym. Llef ddrylliedig gref y croesbren Sydd yn abl maddeu 'mai; Llef y croesbren sydd yn abl Gwneyd i'm henaid 'difarhau: Ar Galfaria, &c. Fynydd sanctaidd, mae fy ngrym. Mi ddysgwyliaf yno'n dawel, Ac mi greda ryw bryd daw Gwaredigaeth i garcharwr, Bur oddiyno maes o law; Doed pan ddelo, &c. Mi ddysgwyliaf nes ei ddod. Wrth dy orsedd di mae bywyd, Yno cāf fi hedd a grym; Ac ni fethodd is y nefoedd, Ag a geisiodd gennyt ddim, Minnau aflan, &C. Ddeuaf at orseddfa rad. Tyr'd am hynny Iesu yn fuan, Sāf o blaid yr euog gwan, Sy'n lluddedig gan gystuddiau, Dyfnion, trymion, y'mhob man: Yn dy glwyfau, &c. Caiff fy lloches innau fod. Yn y ffynnon a agorwyd, Yn dy ystlys ar y pren, 'Rwyf fi'n dod a'm gwisg yn aflan, I'w chanu yno'n hyfryd wyn: Mi dd'of allan, &c. Fel yr eira ar y bryn. Mae e'n maddeu beiau mawrion, Ac yn caru yn ddidrai; A lle caro, mae ei gariad Yn drag'wyddol yn parhau: Nid oes terfyn, &c, Ar ei gariad, ar ei ras. sydd yn abl :: a all hefyd Gwneyd i'm henaid 'difarhau :: Wneuthur im edifarhau
Tonau [878747]:
gwelir: |
By thy throne I am resting, Crying out morning and afternoon, To get to hear full silence, From my very fiery guilt: And pure Peace within keep its place. Only grace of utmost ability Brings my soul to its place; On grace alone keeps me Within the walls of his love: Above the scheming Of man and his ability, is its power. The strong shattered cry of the wooden cross Is able to forgive my fault; The cry of the wooden cross is able To make my soul repent: On Calvary, The sacred mountain, is my power. I am waiting there quietly, And I believe some time shall come Deliverance for a prisoner, Clean out of there soon; Come when it will, I will wait until it comes. By thy throne is life, There I may have peace and strength; And it never failed under heaven, And which sought nothing from thee, Even I unclean, Shall come to thy gracious throne. Come, then, Jesus, soon, Stand on the side of a guilty, weak one, Who is corrupted by afflictions, Deep, heavy, everywhere: In thy wounds, Shall my own refuge get to be. In the well which was opened, In thy side on the tree, I am coming with my unclean clothing, To bleach it there delightfully white: I shall come out, Like the snow on the hill. He is forgiving great faults, And loving unebbingly; And where he loves, his love is Eternally enduring: There is no limit To his love, to his grace. is able :: is able also To make my soul repent :: To make me repent tr. 2015,19 Richard B Gillion |
|