Wrth edrych ar y sail, A'r wir addewid gref, Er ofnau rif y dail, Pa'm yr amheuwn ef, A dyma air, pwy ŵyr ei werth? Yn ol dy ddydd y bydd dy nerth. Pa ham y beiaf ddim Ar gyfoeth gras fy Nuw? Lle rhoddwyd sicrwydd im' Mai digyfnewid yw; A dyma'r hen addewid gu, Lle gallwn ni gael cysur cry'. Nid oedd yn ngallu'r nef, Ddim modd roi sicrwydd mwy, Nā'r wir addewid gref, A seliodd gwaed ei glwy': Ei air a saif yn un o hyd, Pan doddo barn elfenau'r byd. Y pererinion gynt, A'r hen ferthyron glān, Yn awr diangol ynt, Er ymgyrch dwr a than; Mae'r llaw a'u daliodd hwynt i'r lan, I tithau'n gymorth f'enaid gwan.Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) 1766-1850 Gardd Eifion 1841
Tonau [666688]: |
On looking at the foundation, And the true, strong promise, Despite fears as numerous as the leaves, Why would I doubt him? And here is a word, who knows its worth? According to thy day shall be thy strength. Why shall I find fault at all With the wealth of the grace of my God? Where an assurance was given to me That unchangeable it is; And here is the dear, old promise, Where we can get strong comfort. There is in the power of heaven, No means to give any more assurance, Than the strong, true promise, Which the blood of his wound sealed: His word shall stand the same always, When judgment melts the elements of the world. The former pilgrims, And the old, holy martyrs, Are now safe, Despite the assault of water and fire; The hand that holds them up, is To thee a help my weak soul.tr. 2017 Richard B Gillion |
|