Wrth gofio'r groes, fy enaid gwan, Beth yw dy weddi di? Ai am gael cyfoeth 'r wyt i'th ran, Daearol barch a bri? Ai gofyn wnei am olau clir Ar lwybrau dyrys Duw, Y gwawd, y groes, y poen, a'r cur, A thynged dynol-ryw? Ai gofyn wnei am nefoedd draw Mewn gwlad tu hwnt i'r llen, A thelyn euraid yn dy law, A choron ar dy ben? Nid dyna 'nghais, nid dyna 'nghri: Fy ngweddi, Arglwydd, yw Cael canlyn Crist i Galfari, A chario croes fy Nuw. dyna 'nghais :: dyna'm cais dyna 'nghri :: dyna'm cri Thomas Jones 1850-1937
Tonau [MC 8686]: |
While remembering the cross, my weak soul, What is thy prayer? Art thou wanting to get riches to thy part, Earthly respect and honour? Or wilt thou ask for a clear light On the troublesome paths of God, The scorn, the cross, the pain, and the blow, And the lot of human-kind? Or wilt thou ask for yonder heavens In a land beyond the curtain, And a golden harp in thy hand, And a crown on thy head? This is not my request, this is not my cry: My prayer, Lord, is To get to follow Christ to Calvary, And carry the cross of my God. :: :: tr. 2011 Richard B Gillion |
|