Wŷr ieuainc a gwyryfon

Wŷr ieuainc a gwyryfon,
    blant ffyddlon Sion sydd,
O fewn i Gymru'n trigo,
    yn rhodio a'u dwylaw'n rhydd,
  Ac yn bwriadu newid
      eu cyflwr eto ar hyn,
  Clwych air neu ddau o gynghor,
      yn sobr ac yn syn;
Ni welwn yn y 'Sgrythyr
    orchmynion eglur iawn,
Am beidio ieuo â'r digred,
    rai diriaid heb ddim dawn;
  Y rheol hon dilynwn,
      a rhodiwn yn ei hol,
  Gochelwn gyfeiliornu
      wrth ddilyn ffansi ffol.

Am hyny, pwy ymyrai
    yn fawr am bethau'r byd,
Na thegwch ond fo gweddaidd,
    can's gwageddynt i gyd;
  Dyledswydd holl blant Sion,
      rhag ofn troion traws,
  Yw 'morol am gymharon
      rai union o'r un naws;
Dyledswydd gwir Gristnogion
    yn ddoethion ac yn dde,
Yw atal trachwant cnawdol,
    gelynol, gael ei le;
  A mynd at Dduw o ddifri
      i ymgyngori'n gall,
  Rhag iddynt gael eu temtio
      i ieuo â
          phlant y fall.
Dafydd Jones 1711-77

[Mesur: 13.13.13.13.D]

Young men and virgins,
    who are faithful children of Zion,
Dwelling within Wales,
    and walking with their hands free,
  And purposing to change
      their condition again on this,
  Hear a word or two of advice,
      soberly and amazed;
We see in the Scripture
    commandments very clear,
About not being yoked with the unbeliever,
    wicked ones without any gift;
  This rule let us follow,
      and walk according to it,
  Let us avoid wandering
      while following a foolish fancy.

Therefore, whoever would associate
    greatly with the things of the world,
Not fairness unless fitting,
    since they all prove empty;
  The duty of all the children of Zion,
      against contrary turnings,
  Is an enquiry about companions
      those upright of the same temperament;
 The true duty of Christians
      wise and right,
Is to stop fleshly, hostile
    lust, from getting its place;
  And going to God seriously
      to get wise counsel,
  Lest they get tempted
      to be yoked with
          the children of the evil one.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~