Y baich sydd arnaf ddydd a nos

1,2,3,4,(5,6).
(Ymbil am Gynhaliaeth)
Y baich sydd arnaf ddydd a nos,
  Ac wrthyf sydd ynglyn,
Sydd ysgafn, er ei bwysau ef,
  I'th ysgwydd gref dy Hun.

O! cymer Di fy maich a'm poen,
  A'm hofnau maith i gyd;
A rho i mi heddwch yn dy glwy',
  Sydd lawer mwy na'r byd.

Fe gŵymp fy ofnau i gyd o flaen
  Dy gariad glan a'th hedd,
Holl ddychryniadau angau hy,
  Ac uffern ddu a'r bedd.

Mae prawf o'th gariad dwyfol gwir
  Fel diliau pur eu blas,
Fe ddeil dan demtasiynau i'r lan
  Fy enaid gwan i maes.

O! fanna pur o ddwyfol brîs,
  Anwylaf îs y nef,
Gâd i'r newynllyd heddyw gael
  Ymborthi arno ef.

Fe gerdd fy nhraed yn hwylus iawn,
  Dôf cyn prydnawn i'r làn;
Os câf ond bwyta'r gwleddoedd hyn.
  Câf ganu yn y màn.
eu blas :: ei flâs

William Williams 1717-91

Tonau [MC 8686]:
Brithdir (P H Lewis 1875-1956)
Claudius Ptolemeus (A H Mann 1850-1929)
Gwrecsam (Psalmydd Ravenscroft)
Hiraeth (Daniel Protheroe 1867-1934)
Ludwig (Ludwig van Beethoven 1770-1827)

gwelir: Ni throf fy ŵyneb byth yn ôl

(Petition for Support)
The burden that it upon me day and night,
  And that is sticking to me,
Is light, despite its weight,
  To Thy own strong shoulders.

O take Thou my burden and my pain!
  And all my vast fears;
And give me peace in thy wound,
  Which is much greater than the world.

All my fears shall fall before
  Thy holy love and thy peace,
All the horrors of boastful death,
  And black hell and the grave.

An experience of thy divine, true love is
  Like honeycombs pure their taste,
It will hold up out under temptations
  My poor soul.

O pure manna of divine worth,
  Dearest under heaven,
Let the starving today get
  To feed upon it.

My feet shall walk very successfully,
  I shall come up before evening;
If I can only get to eat these feasts,
  I shall get to sing shortly.
pure their taste :: pure its taste

tr. 2018 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~