Y bobol oedd mewn t'w'yllch mawr

(Dymuniad y Cenhedloedd)
Y bobol oedd mewn t'w'yllch mawr
Llewyrchodd arnynt nefol wawr;
  I'r rhai yn nghysgod angau dû,
  Tywynodd pur oleuni cu.

Cenhedloedd pell a lawena,
Fel rhai ar ol cynauaf da,
  Neu rai yn rhanu ysbail fawr,
  Ar ol eu llwyddiant ar y llawr.

Can's ganed ini'r Bachgen gwiw,
A Mab a roddwyd gan ein Duw,
  Rhyfeddol yw ei enw mawr,
  Cynghorwr doeth y nef a'r llawr.

Tad tragwyddoldeb, cadarn Dduw,
A Th'wysog y tangnefedd yw;
  Bydd y llywodraeth ganddo ef,
  Wrth ordinhad sefydlog nef.

Ei hedd a'i fawr lywodraeth ef
A bery byth fel dyddiau'r nef;
  Ar orsedd Dafydd, yn ddilyth,
  Bydd yn teyrnasu'n gyfiawn byth.
Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844

Tôn [MH 8888]: Duke Street (John Hatton 1710-93)

(The Desire of the Nations)
The people who were in great darkness
Upon them shone a heavenly dawn;
  To those in the shadow of black death,
  Gleamed a dear, pure light.

Distant nations shall rejoice,
Like those after a good harvest,
  Or those sharing great spoil,
  After their success on the earth.

Since born for us is a worthy Boy,
And a Son was given my our God,
  Wonderful is his great name,
  A wise Counsellor of heaven on the earth.

Eternal Father, mighty God,
And the Prince of peace is he;
  The government he shall have,
  By the established ordinance of heaven.

His peace and his great government
Shall endure forever like the days of heaven;
  On David's throne, unfailingly,
  He shall be reigning righteously forever.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~