Y bore hwn, trwy buraf hedd, Gwir sain gorfoledd sydd, Ymhlith bugeiliaid gwael eu bri, Cyn iddi dorri'r dydd. Gwrandawed pob pechadur gwan Sy'n plygu dan ei bla Angylion nef, â'u llef yn llon, Yn dwyn newyddion da. I Fethle'm Jiwda, dyma'r dydd Daeth newydd da o'r ne'; Duw ymddanghosodd yn y cnawd, Ein Brawd, yn dlawd ei le. O! wele'r Bod sy'n dal y byd, Yn fud ar lîn ei fam; Newydd ei eni'n nawdd i ddyn, Yn hŷn nag Abraham. Rhyfeddwn byth, tra byddwn byw, Daioni Duw i ddyn; Yr Iesu'n aberth roed i ni, Trwy nodded Tri yn Un. dan ei bla :: gan ei bla I Fethle'm :: Ym Meth'lem Jiwda :: Juda :: Iudah dyma'r dydd :: cyn y dydd Daeth :: Doe'r O! wele'r Bod :: Y dwylaw bach roed :: roes :: rhoes John Thomas (Eos Gwynedd) 1742-1818
Tonau [MC 8686]: |
This morning, through purest peace, There is the true sound of rejoicing, Amongst shepherds of a lowly reputation, Before the break of day. Let every weak sinner hear Who is bending under their plague, The angels of heaven, with their cheerful cry, Bringing good news. For Bethlehem of Judah, here is the day Good news came from heaven; God revealed himself in the flesh, Our Brother, poor his place. Oh, see the Being who is holding the world, Mute on the knee of his mother; Newly-born as a refuge for man, Older than Abraham. Let us wonder forever, while ever we are alive, At the goodness of God to man; Jesus as a sacrifice given to us, Through the protection of Three in One. under his plague :: because of his plague For Bethlehem :: In Bethlehem :: :: here is the day :: before the day :: Oh, see the Being :: The little hands given :: he gave :: he gave tr. 2015 Richard B Gillion |
|