Y fan lle'r wyf yn trigo

1,(2),3.
(Ymbil am Gymdeithas barhau â Christ)
Y fan lle'r wyf yn trigo
  Yw byd y cystudd mawr;
Yn wyneb drist 'rwyf ynddo
  Yn treulio llawer awr;
O Iesu'r Cyfaill ffyddlon,
  Un tirion iawn wyt ti,
Mae'n hwyr, a'r dydd yn darfod,
  O! aros gyda ni.

Eglura trwy'r ysgrythyr,
  Gwna'n eglur i ni'n un,
Y pethau hynod hyny
  Am danat ti dy hun;
Gwna'n hymddyddanion redeg
  O hyd am danat ti;
Mae'n hwyr, a'r dydd yn darfod,
  O! aros gyda ni.

[Eglura y ysgrythyr
   I'n deall ni bob un -
 Y pethau hynod hyny
   Am danat ti dy hun;
 Gwna i'n hymddyddanion redeg
   O hyd am danat ti;
 Mae'n hwyr, a'r dydd yn darfod,
   O! aros gyda ni.]

Ymdeithwyr ydym yma,
  Dyeithriaid yn y tir,
Yn myn'd ar ol ein tadau,
  I wlad ein cartref hir;
Tra byddom yn yr anial,
  Rho wedd dy wyneb cu;
Mae'n hwyr, a'r dydd yn darfod,
  O! aros gyda ni.
Yn wyneb drist :: A chalon drist

T Williams
(arallwyd, Casgliad Joseph Harris 1845.)

Tonau [7676D]:
Ardudwy (<1876)
Penmynydd (<1845)
Penymorfa (alaw Gymreig)
Pwllheli (John Francis 1789-1834)

(Petition for enduring Fellowship with Christ)
The place where I am dwelling
  Is the world of the great tribulation;
As a sad face I am in it
  Spending many an hour;
O Jesus the faithful Friend,
  A very tender one art thou,
It is late, and the day is passing,
  O stay with us!

Elucidate through the scripture,
  Make clear to us as the same,
These notable things
  About thee thyself;
Make our conversations run
  Always about thee;
It is late, and the day is passing,
  O stay with us!

[Explain the scriptures
   For us to understand every one -
 These notable things
   About thee thyself;
 Make our conversations run
   Always about thee;
 It is late, and the day is passing,
   O stay with us!]

Travellers are we here,
  Strangers in the land,
Going after our fathers,
  To the country of our long-lasting home;
While ever we are in the desert,
  Grant the countenance of thy dear face;
It is late, and the day is passing,
  O stay with us!
As a sad face :: With a sad heart

tr. 2019 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~