Y Gŵr fu ar Galfaria, A welir maes o law; Yn eistedd ar ei orsedd, A'r glorian yn ei law; A phawb a gesglir yno, I'w pwyso ger ei fron; O! f'enaid cais dduwioldeb, I droi y glorian hon. Daw dydd o brysur bwyso, Ar grefydd cyn bo hir; Cei gwel'd gan bwy mae sylwedd, A phwy sydd heb y gwir: O! Arglwydd rho im' 'dnabod, Ar f'ysbryd ol dy law; Can's dyna'r ddelw a'r argraff, Arddelir ddydd a ddaw. Bydd myrdd o ryfeddodau, Ar doriad bore wawr; Pan ddelo plant y tònau, Yn iach o'r cystudd mawr; Oll yn eu gynau gwynion, Ac ar eu newydd wedd; Yn debyg i'w eu Harglwydd, Yn dod i'r làn o'r bedd. Mae cofio dydd y cyfrif, Yr hwn a ddaw cyn hir, Yn uchel alw arnaf I lefain am y gwir; 'Rwy'n ofni 'nhwyllo f'hunan, O Dduw, didwylla fi: Nid oes a ddeil ei bwyso Ond gwaith dy Ysbryd di. maes o law :: ddydd a ddaw I droi :: A droa('r) :: A dry :: A dro Arglwydd rho im' 'dnabod :: Dduw rho im' adnabod ddelw a'r argraff :: stamp a'r ddelw Yn uchel alw arnaf :: Yn peri i rai o'u calon 'nhwyllo f'hunan :: twyllo'm hunan ei bwyso :: ei bwysau
1: Thomas Phillips 1772-1842
Tonau [7676D]:
Gwelir: |
The Man who was on Calvary, Is to be seen at hand; Sitting on his throne, With the scales in his hand; And everyone to be gathered there, To be weighed in his presence; O my soul, seek divinity, To turn those scales. The day of reckoning will come, On religion before long; It will be seen who has substance, And who lacks the truth: O Lord, grant me to know On my spirit the mark of thy hand; For that is the image and the impression, To be professed on the day to come. There will be a myriad of wonders At the break of the morrow's dawn, When the children of the waves come Saved from the great tribulation, All in their white robes And transfigured, Like unto their Lord Coming up from the grave. Remembering the day of reckoning, That to come before long, Is a high call upon me To cry for the truth; I fear deceiving myself, O God, make me guileless: There is nothing that keeps its weight But the work of thy Spirit. at hand :: on the coming day To turn :: Which will turn :: Which will turn :: Which will turn Lord grant me to know :: God grant me to know image and the impression :: stamp and the image Loudly call upon me :: Cause some from their heart :: :: tr. 2013 Richard B Gillion |
Once again the world shall seeHowell Elvet Lewis [Elfed] 1860-1953 Sweet Singers of Wales [Metre: 7777D] |