Y mae'r Brenin addfwyn Iesu Ar ei daith i Salen lân; A'r plant bychain yn cydganu Eu Hosanna'n bêr eu cân. Y mae'r dorf yn ei groesawu Ac yn taenu dail y palm; A'r plant bychain yn cydganu Eu Hosanna'n bêr eu salm. Y mae'r Brenin yn eu caru, A bendithia bawb o'r plant; A'r rhai bychain yn cydganu Eu Hosanna'n bêr eu tant. Y mae'r Brenin heddiw eto Ar ei daith trwy Ddinas Duw; Seiniwn ni Hosanna iddo, Brenin y Brenhinoedd yw.David Lewis (Ap Ceredigion) 1870-1948
Tonau [8787]: |
The gentle King Jesus is On his journey to holy Jerusalem; And the little children chorussing Their Hosanna in their sweet song. The crowd are welcoming him And spreading palm leaves; And the little children chorussing Their Hosanna in their sweet psalm. The King is loving them, And blessing all of the children; And the small ones chorussing Their Hosanna in their sweet strain. The King today is still On his journey through the City of God; Let us sound Hosanna to him, The King of Kings he is.tr. 2020 Richard B Gillion |
|