Y mae rhinwedd gras y nefoedd, O drag'wyddol faith barhâd; Nid oes darfod byth ar effaith, Perffaith haeddiant dwyfol waed: Ac er golchi, Dysglaer fydd yr afon byth. Heddyw yr agorwyd ffynon, Ddysglaer fel y grisial clir: Y mae'n llanw ac yn llifo Tros wastadedd Salem dir: Bro a bryniau, &c, A gaiff brofi rhîn y dŵr. Minnau_a dd'of i'r ffynnon loyw, Darddodd allan ar y bryn, Ac mi olcha'm henaid euog, Ganwaith yn y dyfroedd hyn; Myrdd o feiau, Dafla'i lawr yn ngrym y dw'r. Iachawdwriaeth râd ei hunan, Yw fy mhle o flaen y nef, A ffarwel am dana'i fythol, Oni chaf ei haeddiant ef; Iesu ei hunan, Oll o flaen y fainc i mi. Ganddo mae afonydd mawrion O ffyddlondeb ac o hêdd; Er fy mwyn dyoddefodd angeu, A gorweddodd yn y bêdd; Fel y gallwn Fyn'd i mewn i'r ddinas bur. Ffordd nid oes o waredigaeth, Ond agorwyd ar y pren, Llwybr pechaduriaid euog, Mewn i byrth y nefoedd wen; Dyma'r gefnffordd, Gwna i mi ei cherdded tra fwyf byw. O na chawn ddifyru nyddiau, Llwythog dan dy ddwyfol groes! A phob meddwl wedi ei glymu, Wrth dy berson ddydd a nos; Byw bob mynyd, Mewn tangnefedd pur a hedd. Rho i mi gerdded dros rai oriau, Yn siriol ronyn bach ymlaen, Na'd im' ofni gwynt na themhestl, Bryn nac afon, dwfr na thân; Ond dan ganu, Gwna_i mi fyn'd i ben fy nhaith. O dirwynwch oriau 'fynu, A gadewch im' wel'd y dydd Pan y torir fy nghadwynau, Y caf rodio'n berffaith rydd; Ysbryd caethwas Gwedi troi yn ysbryd hedd. Dafla'i lawr yn ngrym :: Daflai lawr i rym nadl :: ple
Tonau [878747]:
gwelir: |
The virtue of the grace of heaven is, Of an eternal, vast duration; There is never any dying away of the effect Of the perfect merit of divine blood: And for washing, Shining will be the river forever. Today is opened a well, Shining like the clear crystal: It is flooding and flowing Across the plains of Salem land: Vale and hills, Shall get to taste the virtue of the water. I shall come to the bright well, Which issued out of the hill, And I will wash my guilty soul, A hundred times in these waters; A myriad of faults, I shall throw down in the force of the water. Free salvation itself, Is my plea before heaven, And farewell about me forever, If only I get his merit; Jesus himself, All before the throne for me. With him there are great rivers Of faithfulness and of peace; For my sake he suffered death, And lay in the grave; That I might Go inside into the pure city. There is no way of deliverance, But there was opened on the tree, A path for guilty sinners, Into the portals of the bright heavens; Here is the highway, Make me walk it as long as I live. O that I might enjoy days, Burdened under thy divine cross! And every thought knotted, To thy person day and night; To live every minute, In pure tranquility and peace. Grant me to walk for those hours, Cheerfully a small grain forwards, Do not let me fear wind or tempest, Hill or river, water or fire; But through singing, Make me do to my journey's end. O ye hours, wind up, And let me see the day When my chains are to be broken, And I will get to roam perfectly free; The spirit of a captive slave Having turned into a spirit of peace. I shall throw down in the force :: It would throw down to the force :: tr. 2015 Richard B Gillion |
|