Y noeth y tlawd a'r llwythog sy

(Newydd da i'r truan)
Y noeth, y tlawd, a'r llwythog sy
'N och'neidio tua'r nefoedd fry,
  A'r cystuddiedig gwael ei lun,
  Wna Iesu'n briod iddo'i hun.

Newyddion da er seiliad byd
A roed yn nghadw i'r rhai'n i gyd:
  A phan addfedo awr y Tad,
  Dadguddir iddynt oll yn rhad.

I'r rhai'n mae
    rhagorfreintiau'i waed,
I'r rhai'n mae cyflawn wir iachâd,
  I'r rhai'n mae heddwch llawn ryw bryd -
  Rhyddhâd oddi wrth anfeidrol lid.

Galarwyr Seion sydd yn awr
Yn griddfan yn y cystudd mawr,
  Na wylwch mwy - newyddion mae
  A bair i'ch calon lawenhau.

Am hyn dyrchefwch fyny fry,
Cydseiniwch â'r angylaidd lu;
  Tra byddoch byw na foed eich son
  Ond am rinweddau
      gwaed yr Oen.

- - - - -
Y noeth, y tlawd, a'r llwythog sy 'N och'neidio tua'r nefoedd fry; A'r cystuddiedig gwael ei lun Wna Iesu'n briod iddo'i hun. O! Iesu atat 'rwyf yn dod, Y truenusaf ddyn erio'd, I lechu tan dy aden glyd, Yn nhemtasiynau mawr y byd. Rho imi brawf o'th gariad drud, I'r sawl a fynech dyro'r byd; Dy gwmni dry mewn mynyd awr Y ddaear megys nefoedd fawr. Ni fedd y dwyrain faith na'r de Bleserau fel pleserau'r ne'; Mae môr didrai mewn marwol glwy'; Heb ddechreu ac heb ddarfod mwy. Gwisg fi â'r fantell ddysglaer iawn, A wnaed ar Galfari brydnawn; A chladd aneirif feiau f'oes, Yn nwfr pur a gwaed y groes.
William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Boston (Lowell Mason 1792-1872)
Gould's(<1845)
Sarum (<1869)

gwelir:
  O Arglwydd gad im' dy fwynhau
  Pwy ydwy hon sy'n llesg a gwan?

(Good news to the pitiful)
The naked, the poor, and the burdened is
Groaning towards the heavens above,
  And the afflicted of an abject condition,
  Makes Jesus a spouse for himself.

Good news since the foundation of the world
Which he gave in keeping to all those:
  And when the Father's hour matures,
  To be revealed to them all freely.

To those there is
    the supreme privilege of his blood,
To those there is the full, true healing,
  To those there is full peace some time -
  Freedom from immeasurable wrath.

Mourners of Zion who are are now
Groaning in the great tribulation,
  Weep ye no more - there is news
  Which shall cause your heart to rejoice.

Therefore raise up above,
Sound together with the angelic host;
  While ever ye live let not your mention be
  But about the merits
      of the blood of the Lamb.

- - - - -
The naked, the poor, and the burdened is Groaning towards the heavens above; And the afflicted of a base condition Makes Jesus a spouse for himself. O Jesus, to thee I am coming, The most miserable man ever, To lurk under thy cosy wing, In the great temptations of the world. Grant me to experience thy costly love, To whomever thou wilt give the world; Thy company shall turn in a minute The earth to be like great heavens. Neither the vast East nor the South possess Pleasures like the pleasures of heaven; There is an unebbing sea in a mortal wound; Without beginning and without any more passing away. Clothe me with the very bright mantle, Made on Calvary one afternoon; And bury the innumerable faults of my lifespan, In the pure water and blood of the cross.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~