Y Tad o'r nef anfonodd Grist Anfonodd Crist ei weision, I iawn drosglwyddo gair y Groes O oes i oes yn gyson. Eneiniwyd Crist ā'r Ysbryd Glān Yn Ben i'w burlan Eglwys; Rhydd yntau'r dawn i ddeiliaid hon Trwy law ei weision cymwys. Traddoda'r Tad yn Nuw y dawn O'i law i ffyddlawn ddynion; Daw'r rhain yn dadau yn eu tro, Ac urdd o weinidogion. O dad i fab yn Ffydd y Groes, O oes i oes olynol, Trosglwyddir ffurf a rhinwedd llawn Y Dwyfol ddawn ysbrydol. I'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glān Dyrchafer cān clodforedd; Fel gynt yr oedd, y mae'n ddi-lyth, A phery byth heb ddiwedd.Morris Williams (Nicander) 1809-74
Tonau [MS 8787]: |
The Father from heaven sent Christ, Christ sent his servants, Rightly to convey the word of the Cross From age to age constantly. Christ was anointed with the Holy Spirit As Head for the pure holy Church; He gives the give to her members Through the hand of his qualified servants. The Father in God delivered the gift From his hand to faithful men; The shall become fathers in their turn, And an order of ministers. From father to son in the Faith of the Cross, From age to succeeding age; The form and full merit shall be conveyed Of the divine spiritual gift. To the Father and the Son and the Holy Spirit A song of praise is to be sung; As it once was, is unfailingly, And shall endure forever without end.tr. 2023 Richard B Gillion |
|