Yma'n griddfan ar y llawr Wyf yn ngwlad y cystudd mawr, Methu marw, methu byw, Wedi colli gwedd fy Nuw; O fy Iesu! clyw fy nghri, Gâd im' dd'od i'th fynwes Di: Yn Dy iachawdwriaeth râd, Dŵg fi'n ôl i Dŷ fy Nhad. Maith yw'r nôs a marwol ddu, Llawn gofidiau o bob tu, Minau'n aros yn yr hwyr, Bron ag anobeithio'n llwyr: Ond dros fryniau'r dwyfol dir Tòra gwawr dragwyddol glir: Henffych foreu fy rhyddhâd, Y câf fyn'd i Dŷ fy Nhad. Grâs y nef a leinw'n awr Wagder fy nhrueni mawr; Yn fy Iesu byth yn llawn; Mae digonedd Duw mewn Iawn; At Ei groes yr âf o hyd, Ac mi ganaf, gwỳn fy myd; Y mae yno gariad rhâd Yn rho'i hawl i Dŷ fy Nhad.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 Tôn [7777D]: Aberystwyth (Joseph Parry 1841-1903) |
Here groaning on the earth I am in the land of the great tribulation, Failing to die, failing to live, Having lost the countenance of my God; O my Jesus, hear my cry! Let me come to thy bosom: In thy gracious salvation, Bring me back to my Father's house. Vast is the night and black mortality, Full of griefs from every side, I waiting in the late evening, Almost completely losing hope: But over the hills of the divine land Breaks a clear eternal dawn: Hail morning of my freedom, When I get to go to my Father's house. The grace of heaven shall fill now The emptiness of my great wretchedness; In my Jesus forever full, There is God's sufficiency in Atonement; To his cross I shall go always, And I shall sing, blessed am I; There is free love there Giving its right to my Father's house.tr. 2020 Richard B Gillion |
|