Yn awr fe ffodd cymylau'r nos, Fe dòrodd boreu wawr: Ac y mae dysgwyl wedi dwyn Ffyddlondeb nef i lawr. Fel ffŷ tywyllwch dudew ffwrdd, O flaen goleuni'r dydd; Felly fy ofnau hwythau ffodd, A minnau wnaed yn rhydd. Pe rhoddid im' fynyddau'r byd, A'r rhai'n yn arian pur, Mi a'u gwrthodwn hwynt yn lân, Am ddwyfol heddwch gwir. Mi rof ffarwel i bob ryw chwant, Pob pleser îs y nen; Yr wy'n cymmeryd Iesu o'm bodd Yn Briod ac yn Ben. Ni welaf wrthddrych mewn un man, O'r ddaear faith i'r ne', A dâl ei garu tra f'wyf byw Yn unig ond Efe.William Williams 1717-91 Tôn [MC 8686]: Cambridge New (John Randall 1717-99) gwelir: Ni gawsom y Messia'n rhad Rwy'n edrych dros y bryniau pell |
Now the clouds of night have fled, The dawn of morning has broken: And waiting has brought The faithfulness of heaven down. As pitch-black darkness fled away, Before the light of day; Thus my fears, they fled, And I too have been made free. If the world's mountains had been given to me, And they of pure silver, I would reject them totally, For true divine peace. I will bid farewell to every kind of lust, Every pleasure below the sky; I am taking Jesus voluntarily As Spouse and as Head. I will see no object anywhere, From the vast earth to heaven, That will hold his love while ever I live Except Him alone.tr. 2017 Richard B Gillion |
|