Yn awr, Sancteiddiol Ysbryd, tyr'd i lawr, Disgleiria hyfryd foreu wawr - Goleuni mawr o entrych nef; Fel delo'm henaid wel'd yn glir Yr hyfryd dir bwrcasodd ef. 'Does fan O'r ddaear foddia'm henaid gwan; Diangodd rhwng y sêr i'r lan, I 'mofyn rhan sydd uwch yr haul: Yn mynwes f'Arglwydd mawr y mae Gwledd i barhau, nad oes o'i hail. Y gwin Sydd yno, mae o nefol rin, I nerthu'm henaid pan yn flin, Gan groesau sy'n fy nghuro o hyd: Wrth yfed hwn, myfi af trwy Gystuddiau mwy nag ŵyr y byd. [ Rho'r gwin Y sydd o nefol ddwyfol rin, I nerthu'm henaid pan f'o flin, Gan groesau sy' yn curo o hyd: Wrth yfed hwn, myfi âf trwy Gystuddiau mwy nag ŵyr y byd.]William Williams 1717-91
Tonau [288.888]: gwelir: Nid oes (A ddeil fy Ysbryd dan bob croes) |
Now, Holy Spirit, come down, Shine delightful morning dawn - Great light of the vault of heaven; Thus shall my soul come to see clearly The delightful land he purchased. There is no place Of the earth that satisfies my weak soul; It escaped up between the stars, To ask for a portion which is above the sun: In the bosom of my great Lord there is A feast to endure, which has no equal. The wine, Which is there, is of heavenly merit, To strengthen my soul when exhausted, By crosses which are beating me always: By drinking this, I shall go through Afflictions more that the world knows. [ Give the wine Which is of heavenly, divine merit, To strengthen my soul whenever it be exhausted, By crosses which are striking always: By drinking this, I shall go through Afflictions more than the world knows.]tr. 2016 Richard B Gillion |
|