Yn nhrefn dy lân ragluniaeth, Ti wyt, O! Dduw, gerllaw, A'th ddarpariadau helaeth Eglura nerth dy law; Ti wnei i'r holl dymhorau, Y gwynt, y glaw, a'r gwres, Er llwyr gyflawni'n heisiau, Weinyddu er ein lles. Trwy'r holl flynyddoedd meithion Dihidlaist ar ein gwlad Gawodydd o fendithion, O drysor mawr dy rad; O! dysg in dy gydnabod Trwy oes o foliant llawn, Nes cael mewn oes ddiddarfod Dy ogoneddu'n iawn. Boed clod a mawl yn unfryd Trwy'r byd a'r nefoedd lân, I'r Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd, Y Drindod ddiwahân; O oesoedd annherfynol, Y mae yn Un yn awr, Bydd felly'n annewidiol I dragwyddoldeb mawr.William Morgan (Penfro) 1846-1918 Tôn [7676D]: Oxwich (T R Matthews 1826-1910) |
In the plan of thy holy providence, Thou art, O God, at hand, And thy vast provisions Make evident the strength of thy hand; Thou makest all the seasons, The wind, the rain, and the warmth, For the complete fulfilment of our needs, Serve for our benefit. Through all the vast years Thou didst distil upon our land Showers of blessings, From the great treasure of thy grace; O teach us to recognize thee Through an age of full praise, Until getting in an undying age To glorify thee aright. May acclaim and praise be of one intent Throughout the world and holy heaven, To the Father, and the Son, and the Spirit, The undivided Trinity; From unending ages, He is the same One now, Shall be thus unchanging For a great eternity.tr. 2020 Richard B Gillion |
|