Yn noeth yn dlawd yn glwyfus glaf

(Noddfa Pechadur)
Yn noeth, yn dlawd, yn glwyfus glaf,
Ffoi atat Ti, fy Iesu wnaf;
  Dan gywilyddio yr un pryd,
  I'm wrthryfela i'th erbyn c'yd.

Iachawdwr arall, gwn, nid oes,
Na noddfa i'm cadw ond dy groes;
  Yn unig yn dy glwyf a'th waed,
  'Rwy'n cael i'm henaid esmwythâd.

O! Gyfaill pechaduriaid, byth,
Nâ'd imi'th adael tra bo chwyth;
  Ond aros yn dy gariad mwy,
  Ymguddio yn dy farwol glwy.
Dafydd Jones 1711-77

Tonau [MH 8888]:
Babilon (Thomas Campion 1567-1620)
St Cross (John B Dykes 1823-76)
St Luke (J F Lampe 1703-51)
St Tysilio (<1875)
Windham (Daniel Read 1757-1836)

(A sinner's Refuge)
Naked, poor, a wounded sick one,
Flee to thee, my Jesus, I do;
  While being ashamed at the same time,
  Of rebelling against thee for so long.

Another saviour I know there is not,
Nor refuge to keep me, but thy cross;
  Only in thy wound and thy blood,
  I am getting relief for my soul.

O Friend of sinners, never
Let me leave thee while there be breath;
  But stay in thy love evermore,
  Hiding myself in thy mortal wound.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~