Yn Nuw gobeithia, f'enaid drud, A gwna o hyd ddaioni; Cei felly drigo yn y tir, Ac ynddo'th wir ddigoni. Gwna ymddigrifu yn dy Dduw, A chei bob gwiw ddymuniad; Crêd iddo'th ffordd, ac yn ddilŷs D'ewyllys rhydd yn wastad. Crêd ynddo ef, fe'th ddwg i'r lan, Myn allan dy gyfiawnder; Fel goleu'r haul ar hanner dydd Cyn hir y bydd d'eglurder.Casgliad o Salmau a Hymnau (Daniel Rees) 1831 (Salm XXXVII. 3-6 - Da hyderu yn Nuw.) Yn Nuw gobeithia yn y byd, A gwna o hyd ddaioni; Cei felly drigo yn y tir, A chei dy wir ddigoni. Gwna ymddigrifu yn dy Dduw, A chei bob gwiw ddymuniad; Cred iddo ef dy ffordd bob dydd, A'th raid a rydd yn wastad. Cred ynddo ef, fe'th ddwg i'r lan, Myn allan dy gyfiawnder; Fel goleu'r haul ar hanner dydd Y bydd dy bur eglurder.Cas. o Salmau a Hymnau (Daniel Rees) 1837
Edmwnd Prys 1544-1623
[Mesur: MS 8787]
gwelir: |
In God hope, my precious soul, And always do good; Thou wilt thus get to dwell in the land, And in it get truly satisfied. Make thy delight in thy God, And thou wilt get every worthy request; Entrust to him thy way, and unfailingly Thy will he shall grant constantly. Believe in him, he will bear thee up, Thy righteousness shall go out; Like the light of the sun at midday Before long shall be thy radiance. (Psalm 37:3-6 - Good to be confident in God.) In God hope in the world, And do good always; Thou wilt get thus to dwell in the land, And thou wilt get truly satisfied. Make thy delight in thy God, And thou wilt get every worthy request; Entrust to him thy way every day, And thy need he shall grant constantly. Believe in him, he will bring thee up, Thy righteousness shall go out; Like the light of the sun at midday Shall be thy pure radiance. tr. 2016 Richard B Gillion |
|