Yn Nuw gobeithia f'enaid mwy

(Diwedd y duwiol a'r annuwiol
- Salm xxxvii. 34,37-40.)
Yn Nuw gobeithia, f'enaid mwy,
  A chadw'i lwybrau'n gywir;
Ac ef a'th gwyd i'r lan i'r nen,
  Pan syrthio pen yr anwir.

Ystyria di, medd Duw, fel hyn,
  Yr uniawn yn ddiduedd;
A thi gei wel'd y cyfryw ddyn,
  Mai'i derfyn fydd tangnefedd.

Ond gwêl y rhai mewn bai sy'n byw,
  Ynghŷd i ddistryw cwympant;
Annuwiol blant y byd i gyd
  I ddiwedd enbyd deuant.

I'r cyfiawn iechyd
    rhydd Duw Nêr,
  A nerth yn amser cyffro;
Fe'u cymmorth, ac o'r
    drwg fe'u tyn,
  A hyn am gredu ynddo.
Cas. o Psalmau a Hymnau (D Rees) 1831

[Mesur: MS 8787]

gwelir: Cred yn yr Arglwydd a gwna dda

(The end of the godly and the ungodly
- Psalm 37:34,37-40.)
In God hope, my soul, evermore,
  And keep his paths truly;
And he shall raise thee up to the sky,
  When the head of the untrue falls.

Consider thou, says God, thus,
  The upright unbiased;
And thou shalt get to see such a man,
  That his end shall be peace.

But see those who are living in sin,
  Together to destruction they shall fall;
All the ungodly children of the world
  To a perilous end they shall come.

To the righteous, health
    shall God the Lord give,
  And strength in a time of upheaval;
He shall help them, and from
      the evil he shall pull them,
  And this for believing in him.
tr. 2024 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~