Yr Arglwydd Barnwr mawr y byd

(Salm L - Y Farn ddiweddaf)
Yr Arglwydd, Barnwr mawr y byd,
  A eilw 'nghyd y werin;
Gerbron ei fainc o'r dwyrain draw,
  A phawb gerllaw'r gorllewin.

Ni bydd i gablwyr ddweud o hyd
  Na chaiff y byd ei farnu;
Ac am fod Duw yn oedi'r dydd
  Ymroi'n ddig'wilydd bechu.

Daw'n Harglwydd ar gymylau'r ne',
  O'i flaen bydd fflamiau tanllyd;
Taranau, 'storm, a th'wyllwch fydd
  Yn dwyn y dydd dychrynllyd.

Clyw'r nef ei alwad oddifry,
  Daw ato lu o angelion,
A'r byd ac uffern
    ofnant farn
  Ein Harglwydd cadarn cyfion.

"Ond cesglwch fy holl saint," mae'n ddweud,
  Y rhai fu'n gwneud eu cymmod
A Duw, trwy aberth
    ei Fab rhâd,
  A'i selio â'i waed yn barod.

Eu ffydd a'u gwaith
    a eglurair,
  A'r byd a wnair i adde';
Mai cyfiawn 'rwy'n gwobrwyo'm blant,
  A'm gras a folant hwythau.

                 - - - - -

Yr Arglwydd, Barnwr mawr y byd,
  A eilw 'nghyd y werin;
Ger bron ei faingc, o'r drwyrain draw
  A phawb gerllaw'r gorllewin.

Ni chaiff cableddwyr ddweud o hyd,
  "Ni farn Duw'r byd ond hynny;"
Ac am ei fod yn oedi'r dydd,
  Ymro'nt, heb
      g'wilydd, bechu.

Ein Harglwydd ar y cwmmwl ddaw,
  Gan godi braw drwy'r hollfyd;
Tarannau a thywyllch fydd,
  Yn dwyn y dydd dychrynllyd.

Clyw'r Nêf ei alwad oddi draw,
  I'w weini daw Angelion:
A'r byd ac uffern
    ofnant farn
  Ein Harglwydd cadarn cyfion.

Medd Duw, "Cydgesglwch chwi fy saint
  A gafodd fraint y cymmod,
A mi trwy aberth
    Crist a'i waed,
  Ei selio wnaed yn barod."

Eu ffydd a'u gwaith
    yn amlwg fydd,
  A'r byd yn brudd a dystiâ;
Fod ei wobrwyol farn yn iawn,
  A'r Nêf a lawn foddlona.
Salmau Dafydd 1775

[Mesur: MS 8787]

gwelir: Ein Harglwydd ar y cwmwl daw

(Psalm 50 - The last Judgment)
The Lord, the great Judge of the world,
  Shall call together the folk;
Before his throne from the far east,
  And everyone nearby the west.

The blasphemers shall no longer say
  That the world will not be judged;
And since God delays the day
  Commit themselves to shameful sinning.

The Lord shall come on heaven's clouds,
  Before him shall be fiery flames;
Thunders, storm, and darkness shall be
  Bringing the horrendous day.

Heaven shall hear his call from above,
  A host of angels shall come to him,
And the world and hell
    shall fear the judgment
  Of our steadfast, righteous Lord.

"But gather ye all my saints," he says,
  Those who made their covenant
With God, through the sacrifice
    of his gracious Son,
  Who sealed it with his blood already.

Their faith and their work
    shall be made clear,
  And the world shall be made to confess;
That righteous am I to reward my children,
  Who shall praise my grace.

                - - - - -

The Lord, the great Judge of the world,
  Shall call together the folk;
Before his throne, from the far east
  And everyone nearby the west.

The blasphemers shall no longer say
  "God shall no more judge the world;"
And since he is delaying the day,
  They commit themselves, without
      shame, to sinning.

Our Lord on the clouds shall come,
  Raising terror throughout the universe;
Thunders and darkness shall be
  Bringing the horrendous day.

Heaven shall hear his call from afar,
  To serve him angels shall come,
And the world and hell
    shall fear the judgment
  Of our steadfast, righteous Lord.

Says God, "Gather ye my saints,
  Who got the privilege of the covenant,
That was, through the sacrifice
    of Christ and his blood,
  Sealed already."

Their faith and their work
    shall be evident,
  And the world sadly shall testify;
That his rewarding judgment is right,
  And the Lord shall be fully satisfied.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~